Mae'r Salaffiaeth yn fudiad modern, milwriethus Sunni sy'n ceisio cael Mwslemiaid i ddychwelyd i'r hyn a welont fel yr Islam wreiddiol. Datblygodd Salaffiaeth yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif o feddylfryd Wahabi, sef ffurf draddodiadol a cheidwadol o Sunni sy'n hannu o ardal Medina ym mynyddoedd Hejaz, Saudi Arabia.

Mae'r term Salaffiaeth (Arabeg: السلفية as-salafiyyah; Ffrangeg: Salafisme) yn tarddu o'r gair Arabeg salaf, sy'n golygu 'hynafiad' neu 'ragflaenydd', ac sy'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at cymdeithion y proffwyd Mohamed a'r ddwy genhedlaeth a'u dilynodd.

Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.