Sallie Baxendale

llenor

Ymgynghorydd mewn niwroseicoleg glinigol ac awdur yw Dr Sallie Baxendale.

Sallie Baxendale
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr, niwroseicolegydd Edit this on Wikidata

Mae wedi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda phobl ag anawsterau cofio ers dros ugain mlynedd. Mae wedi ysgrifennu dros hanner cant o gyhoeddiadau academaidd ar sut mae'r cof yn gweithio. Mae ei gwaith yn y maes hwn yn amrywio o ddatblygu strategaethau adfer i astudio sut mae'r cyfryngau yn camliwio problemau cofio. Yn 2019 bu'n gweithio i'r Sefydliad Niwroleg, Coleg Prifysgol Llundain.

Cyhoeddwyd Baxendale y gyfrol Ymdopi â Phroblemaur Cof efo Y Lolfa yn 2019


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Dr Sallie Baxendale ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.