Coleg Prifysgol Llundain

prifysgol yn Llundain

Mae Coleg Prifysgol Llundain (Saesneg: University College London neu UCL) yn rhan o Brifysgol Llundain. Dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Llundain a'r sefydliad mwyaf ar gyfer myfyrwyr â gradd yn y Deyrnas Unedig.[1] Mae'n aelod o'r League of European Research Universities.

Coleg Prifysgol Llundain
ArwyddairCuncti adsint meritaeque expectent praemia palmae. Edit this on Wikidata
Mathcoleg prifysgol, sefydliad academaidd, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBloomsbury
Sefydlwyd
  • 1826 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Llundain, ELIXIR UK Edit this on Wikidata
LleoliadBloomsbury, Llundain Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5247°N 0.1336°W Edit this on Wikidata
Cod postWC1E 6BT Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganHenry Brougham, Barwn 1af Brougham a Vaux Edit this on Wikidata

Fe'i sefydlwyd ar 11 Chwefror 1826, yn seiliedig ar syniadau radical yr athronydd Jeremy Bentham. Hon oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr i dderbyn myfrywyr nad oedd yn aelodau o Eglwys Loegr, a'r cyntaf i dderbyn merched. Lleolir ei phrif adeilad, a godwyd i gynlluniau neo-glasurol y pensaer William Wilkins, yn ardal Bloomsbury yng nghanol Llundain.

Mae ysgol gelf y Slade, lle astudiodd Gwen John ac Augustus John ymhlith nifer o arlunwyr eraill, yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Fe'i sefydlwyd ym 1871 gyda rhodd gan y cyfreithiwr Felix Slade.

Oriel golygu

 
Oriel Flaxman yn Adeilad Wilkins
Oriel Flaxman yn Adeilad Wilkins 
 
Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain
Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain 

Myfyrwyr golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) UCL and the Institute of Education merger confirmed. Coleg Prifysgol Llundain (25 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 13 Hydref 2015.

Dolen allanol golygu