Pentref model Fictoraidd yn Shipley, Gorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Saltaire.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Bradford. Gan fod y lle o bwysigrwydd hanesyddol fel enghraifft ardderchog o bentref diwydiannol sydd wedi goroesi bron yn gyfan gwbl, mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 2001.[2]

Saltaire
Mathanheddiad dynol, pentref model Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolShipley
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd20 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.8372°N 1.7903°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd Saltaire ym 1851 gan Syr Titus Salt, un o brif ddiwydianwyr diwydiant gwlân Swydd Efrog. Mae enw "Saltaire" yn gyfuniad o gyfenw'r sefydlydd ac enw Afon Aire, sy'n llifo drwy'r pentref. Mae'r pentref hefyd wedi'i leoli ar Gamlas Leeds a Lerpwl a wasanaethodd Salts Mill, melin wlân Titus Salt. O amgylch y felin adeiladodd Salt dai cerrig taclus ar gyfer ei weithwyr, golchdai, ymolchdai, ysgol, ysbyty, elusendai, rhandiroedd, parc a thŷ cychod. Roedd yna hefyd sefydliad ar gyfer hamdden ac addysg, gyda llyfrgell, ystafell ddarllen, neuadd gyngerdd, ystafell filiards, labordy gwyddoniaeth a champfa.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 1 Mehefin 2019
  2. "Saltaire". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato