Salwch bore drannoeth
Mae salwch bore drannoeth (a elwir weithiau'n pen mawr neu salwch ar ôl y ffair) yn disgrifio'r effeithiau corfforol annymunol a geir ar ôl yfed nifer o ddiodydd alcoholig. Y nodweddion mwyaf cyffredin o salwch bore drannoeth ydy pen tost, teimlo'n gyfloglyd, sensitifrwydd i olau a sŵn, blinder, dolur rhydd a syched, gan amlaf pan fo effeithiau alcohol yn dechrau gadael y corff. Er y gellir profi salwch bore trannoeth ar unrhyw adeg, gan amlaf cyfeiria'r term at y salwch a deimlir ar ôl noson o yfed trwm. Yn ogystal â symptomau corfforol, gall salwch bore drannoeth achosi symptomau seicolegol megis teimladau mwy dwys o bryder ac iselder.