Alcohol
Yng Nghemeg, cyfansoddyn organig sydd â'r grŵp gweithredol hydrocsyl (-OH) wedi ei fondio i atom Carbon grŵp alcyl yw alcohol.
Ffurfio AlcoholGolygu
Ffurfio halogenoalcanauGolygu
Gellir paratio alcoholau cynradd ac eilaidd o halogenoalcanau drwy amnewid niwcleoffilig.
R-X + OH- → R-OH + X-
lle mae X yn grwp gweithredol halogen.
Cyfansoddion carbonylGolygu
Gellir ffurfio alcohol cynradd trwy rydwytho asid carbocsylig neu aldehyd. Defnyddir yr asiantau rhydwytho Lithiwm tetrahydrido alwminad (LiAlH4) neu Sodiwm tetrahydridoborad (NaBH4).
Asid carbocsylig →Rhydwytho→ Aldehyd → Rhydwytho→ Alcohol Cynradd