Samuel Holberry
Ymgyrchydd Siartiaeth blaenllaw oedd Samuel Holberry (18 Tachwedd 1814 – 21 Mehefin 1842).
Samuel Holberry | |
---|---|
Ganwyd | 1816 |
Bu farw | 21 Mehefin 1842 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Ganed Holberry yn Gamston, Swydd Nottingham, yr ieuengaf o naw o blant. Yn 1832 ymunodd â'r fyddin, gan adael ym 1835 a symud i Sheffield, lle dechreuodd weithio fel distyllwr, a phriodi Mary Cooper (22 Hydref 1838).[1]
Ynghyd ag ymgyrchwyr eraill a oedd yn ymgyrchu i ymestyn yr hawliau gwleidyddol a roddwyd gan Ddeddf Diwygio 1832, cymerodd ran mewn nifer o brotestiadau heddychlon. Ar ôl i Wrthryfel Casnewydd gael ei dawelu, ym 1839, cynlluniodd Samuel gyda grŵp bychan yr hyn a elwir heddiw yn 'Wrthryfel Sheffield'.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 13 Awst2011