Samuel Williams

Golygydd papur newydd ac awdur o dras Gymreig

Golygydd papur newydd ac awdur o'r Unol Daleithiau o dras Gymreig oedd Samuel Williams[1] (1824? – 30 Mehefin 1881). Fe’i ganwyd yn Utica, Efrog Newydd. Gweithiodd ar yr Albany Evening Journal a’r San Francisco Evening Bulletin. Ar ôl marw priododd ei wraig weddw (Elizabeth "Lizzie" Balmer Williams 1844-1926) â William Barnes Sr.[2]

Samuel Williams
Ganwyd1826 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgolygydd papur newydd Edit this on Wikidata

Soniwyd amdano yn 1882 yn y llyfr “Dwywaith O Amgylch Y Byd” gan W. O. Thomas[3]:  "Gair am y Cymry: Pan oeddwn yn ymadael o San Francisco, yr oedd pedwar gwesty Cymreig, neu Hotels, fel y gelwid hwy, ar heol Broadway; ond erbyn hyn enw Italaidd sydd ar yr hen Cambrian House, a deallais nad oedd un Cymro yn cadw ty cyhoeddus ar yr holl heol. Ac ni welais neb a fedrai barablu yr iaith Gymraeg, hyd nes y cyrhaeddais swyddfa Proff. Price, yr hwn oedd yn brysurach, ac yn gwneyd mwy o fasnach nag erioed. Yno cyfarfyddais ag Obedog o Fon, J. R. Jones, ac amryw o Gymry caredig eraill mewn llawn gwaith. Ar ol hyn, ni chefais nemawr o drafferth i ddyfod o hyd i gynifer o'm hen gyfeillion Cymreig ag oeddynt yn aros yn y ddinas. Yn mhlith y Cymry mwyaf nodedig, enwaf Mr. R.T. Roberts, N.L. Jehu, H.A. Powell, W.A. Jones, Evan Watts, Rees Llewelyn, ac yn olaf Samuel Williams, Ysw., golygydd y Bulletin, yr hwn oedd yn meddu meddwl cryf a chorff gwan, ac erbyn hyn sydd yn gorwedd yn mhriddellau y dyffryn. Collodd San Francisco un o'r meddylwyr mwyaf galluog, pan fu farw Mr, Williams, ac yr oedd yn un o'r ysgrifenwyr rhwyddaf a mwyaf darllenadwy. Efe oedd Llywydd Budd Gymdeithas y Cymry yn San Francisco; a thrwy ei lafur ef y daeth y Gymdeithas i'r cyflwr llwyddiannus y mae ynddo."

Cyfeiriadau

golygu
  1. Twain, Mark (1990-02-02). Mark Twain's Letters, Volume 2: 1867-1868 (yn Saesneg). University of California Press. ISBN 978-0-520-90607-5.
  2. "William Barnes Sr." (yn en), Wikipedia, 2020-03-27, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=William_Barnes_Sr.&oldid=947562220, adalwyd 2020-03-27
  3. Thomas, W. O. (William Owen) (1882). Dwywaith o amgylch y byd;. The Library of Congress. Utica, N.Y., T. J. Griffiths.