Agor y brif ddewislen

Dinas yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, sy'n ddinas sirol Swydd Oneida, yw Utica. Gorwedd dinas Utica yn yr ardal a adnabyddir fel Dyffryn Mohawk (Mohawk Valley) a Rhanbarth Leatherstocking yng nghanolbarth Talaith Efrog Newydd. Mae gan y ddinas nifer o barciau cyhoeddus a lleoedd ar gyfer chwaraeon haf a gaeaf. Utica a dinas gyfagos Rome yw prif ganolfannau Ardal Ystadegol Utica–Rome, sy'n cynnwys swyddi Oneida a Herkimer. Ei llysenw yw "Sin City". Poblogaeth: 60,651 (2000).

Utica, Efrog Newydd
Utica Panorama.JPG
Math city Edit this on Wikidata
Poblogaeth 62,235 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Ionawr 1734 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser Eastern Time Zone Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Oneida Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd 44.066706 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 139 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.0966°N 75.2319°W Edit this on Wikidata
Cod post 13500–13599 Edit this on Wikidata
Erthygl am y ddinas yn Efrog Newydd yw hon. Gweler hefyd Utica (gwahaniaethu).
Golygfa ar ganol Utica

Cysylltiadau CymreigGolygu

Datblygodd un o gymunedau mwyaf yr Americanwyr Cymreig, ac yn sicr un o'r rhai mwyaf dylanwadol, yn Utica. Sefydlodd rhai Cymry yn yr ardal mor gynnar â diwedd y 18g. Ar ôl dioddef cynaeafau gwael yn 1789 a 1802 ac yn y gobaith ennill rhagor o dir, daeth mewnfudwyr Cymreig eraill i ychwanegu at y pum teulu gwreiddiol gan ymgartrefu yn nhreflannau Stueben, Utica a Remsen. Y Cymry oedd y cyntaf i gyflwyno'r diwydiant llaeth i'r ardal, gan dynnu ar eu profiad yn y famwlad, a daeth menyn Cymreig yn nwydd gwerthfawr ym marchnadau Efrog Newydd. Sefydlwyd argraffweisg yn Utica ac roedd wedi'i sefydlu fel prif ganolfan diwylliannol y Cymry yn America erbyn 1830. Roedd yna 19 o gyhoeddwyr gwahanol a argraffodd tua 240 o lyfrau Cymraeg, 4 cylchgrawn Ymneilltuol a'r papur newydd dylanwadol Y Drych.

Yma y cyhoeddai Robert Everett (1791 - 1875), sawl papur a chylchgrawn, gan ymgyrchu yn erbyn caethwasanaeth pobl dduon, gan gynnwys Y Cenhadwr Americanaidd a'r Dyngarwr. Cyfrifid ef yr Americanwr mwyaf poblogaeidd gan lawer. Cyhoeddai'r papurau o'i gartref yn Stueben, cymuned fechan y tu allan i Utica, lle bu'n weinidog ar ddau gapel: 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynydd'.

Mae'r Cymry a gysylltir ag Utica yn cynnwys:

Dolenni allanolGolygu