Sanddef Bryd Angel

Cymeriad chwedlonol Cymreig yw Sanddef Bryd Angel. Ystyr 'pryd' yma yw "ffurf".

Cyfeirir at Sanddef Bryd Angel yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen fel un o'r tri rhyfelwr a oroesoedd Frwydr Camlan (brwydr terfynol y brenin Arthur). Roedd o mor brydferth fel "ni ddodes neb ei wayw ynddo yng Nghamlan rhag ei deced" ("ni roddodd neb ei waywffon ynddo ym mrwydr Camlan oherwydd ei fod mor deg"). Yn yr un rhan o'r testun cyferbynnir Sanddef â Morfran eil Tegid, un arall o oroeswyr Camlan, a oedd mor hyll fel na feiddai neb ymosod arno am fod pawb yn meddwl ei fod yn "gythraul ganhorthwy" ("cythraul cynorthwyol"); roedd ganddo flew du arno "fel blew hydd".

Ceir enw Sanddef Bryd Angel yn y rhestr mnemonig o Bedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur, sy'n tynnu ar yr un ddysg draddodiadol sy'n sail i'r casgliad Trioedd Ynys Prydain. Roedd yn un o'r 'Tri Gwrthnifiad ["Ystyfnig"] Marchog' yn llys Arthur, gyda Morfran eil Tegid a Glewlwyd Gafaelfawr.

Ceir sawl enghraifft arall o'r enw personol Sanddef mewn testunau cynnar, e.e. fel enw un o feibion Llywarch Hen, ond ymddengys nad oes cysylltiad rhyngddynt â Sanddef Bryd Angel.

Cyfeiriadau

golygu
  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; argraffiad newydd 1999), tud. 506.