Morfran eil Tegid
- Am yr aderyn a elwir weithiau yn Forfran gweler Mulfran.
Cymeriad chwedlonol Cymreig yw Morfran eil Tegid ("Morfran fab Tegid"). Mae'n debyg fod yr enw Morfran yn gyfuniad o mawr (mor) a brân). Enw arall arno yw Afagddu ('Y fagddu'). Mae'n fab i Tegid a Ceridwen ac yn frawd i Creirwy.
Cyfeirir at Forfran eil Tegid yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen fel un o'r tri rhyfelwr a oroesoedd Brwydr Camlan (brwydr terfynol y brenin Arthur). Roedd o mor hyll fel na feiddai neb ymosod arno am fod pawb yn meddwl ei fod yn "gythraul ganhorthwy" ("cythraul cynorthwyol"); roedd ganddo flew du arno "fel blew hydd". Cyferbynnir Morfran â Sanddef Bryd Angel, un arall o oroeswyr Camlan, a oedd mor olygus fel y tybiai pawb ei fod yn angel.
Mae'n ymddangos yn rhan gyntaf y chwedl Hanes Taliesin, sy'n ei bortreadu fel mab hynod hyll ac anwydodus Ceridwen a Tegid Foel. Ar lan Llyn Tegid, mae ei fam, Ceridwen, yn ceisio ennill lle i'w mab anffodus yn y byd trwy ferwi cymysgedd hud a lledrith mewn pair "am ddiwrnod a blwyddyn". Byddai'r tri defnyn cyntaf yn rhoi iddo wybodaeth am bopeth a fu, y sydd ac a fydd, ond maent yn tasgu ar fawd Gwion Bach (Taliesin), a osodwy i ofalu am y pair, ac ef sy'n cael y wybodaeth yn lle Morfran. Mewn un fersiwn o Hanes Taliesin mae gan Morfran frawd o'r enw Afagddu, ond cymysgedd sydd yn y testun a gellir derbyn mai math o lysenw ar Morfran yw Afagddu, am ei fod mor hyll (ei chwaer Creirwy, mewn cyferbyniaeth, yw'r "ferch harddaf yn y byd").
Cyfeirir at Morfran mewn dau o Drioedd Ynys Prydain. Mae'n un o 'Dri Ysgymydd Aerfau Ynys Prydain', gyda Gilbert mab Cadgyffro a Gwgon Gleddyfrudd, ac mae'n berchen un o 'Dri Gordderchfarch' yr ynys, sef Gwelwgan Gohoywgain.
Cyfeirir ato hefyd yn y chwedl fwrlesg Breuddwyd Rhonabwy.
Ceir cyfeiriad at un o'r Cynfeirdd o'r enw Morfran mewn cerdd gan Cynddelw Brydydd Mawr, ond mae ei waith ar goll. Mae Ifor Williams yn cynnig fod cof am y Morfran hwnnw y tu ôl i'r cymeriad yn Hanes Taliesin.
Cyfeiriadau
golygu- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; argraffiad newydd 1999)
- Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
- Ifans,Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gwasg Gomer, 1980) ISBN 1-85902-260-X