Seiclwr proffesiynol Ffrengig ydy Sandy Casar (ganed 2 Chwefror 1979). Ganwyd yn Mantes-la-Jolie, Yvelines. Mae'n reidio dros dîm Française des Jeux.

Sandy Casar
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnSandy Casar
Dyddiad geni (1979-02-02) 2 Chwefror 1979 (45 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2000-
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Gorffennaf 2009

Mae Casar wedi reidio dros dîm Française des Jeux ers iddo droi'n broffesiynol yn 2000. Cyn nyn, bu'n reidio fel amatur ar yng nghlwb Jean Floch/Mantes.

Daeth Casar i'r amlwg pan ddaeth yn ail yn ras Paris-Nice 2002, roedd ond yn 23 oed ar y pryd. Gorffeneodd yn 13ydd safle yn Giro d'Italia 2003, o flaen Marco Pantani. Ei gamp mwyaf hyd yn hyd oedd i ennill cymal yn Tour de Suisse 2003. Gorffennodd yn 14ydd yn Tour de France 2004 a gwisodd Crys Gwyn y reidiwr ifanc gorau am gyfnod. Daeth yn 6ed yn Giro d'Italia 2006, 25 munud tu ôl i'r enilllydd Ivan Basso.

Ar 27 Gorffennaf 2007, tarodd Sandy Casar gi ond aeth ymlaen i ennill ei gymal cyntaf yn y Tour de France.

Canlyniadau golygu

2002
1af Cymal 4, Circuit Franco-Belge
2il Paris-Nice
1af Dosbarthiad Reidiwr Ifanc
3ydd Paris-Camembert
2003
1af Cymal 4, Tour de Suisse
2il GP Le Télégramme
2004
1af Cymal 2, Tour du Poitou Charentes et de la Vienne
2il Route du Sud
2005
1af Route du sud
2007
1af Cymal 18, Tour de France
2009
1af Cymal 16, Tour de France
2010
1af Cymal 9, Tour de France
2011
1af Paris-Camembert

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: