Sara’r Gadwen
gwrach chwedlonol oedd yn byw yn ardal Llanystumdwy, Gwynedd
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Sara’r Gadwen a oedd yn byw yn ardal Llanystumdwy, Gwynedd.
Sara’r Gadwen | |
---|---|
Man preswyl | Llanystumdwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwrach |
Yn ôl y chwedl roedd Sara’r Gadwen yn wrach o Roslan ger Llanystumdwy. Roedd ganddi’r gallu i broffwydo’r dyfodol trwy ddefnyddio’r gadwyn oedd yn hongian uwchben ei lle tân.
Roedd ganddi hefyd y gallu i greu moddion o berlysiau, ddarllen y sêr ac ymdrîn ag ysbrydion.