Llanystumdwy

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanystumdwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Eifionydd ar yr A497 rhwng Cricieth a Pwllheli, ar lannau Afon Dwyfor. Ystyr yr enw yw "yr eglwys wrth y tro ar Afon Dwy".

Llanystumdwy
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9222°N 4.2713°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000089 Edit this on Wikidata
Cod OSSH473385 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae'n enwog am ei chysylltiadau â Lloyd George. Treuliodd y 'Dewin Cymreig' ei blentyndod yn y pentref tan oedd yn 15eg oed, yng ngofal ei ewythr Richard Lloyd, crydd wrth ei grefft a gweinidog cynorthwyol yn y capel lleol: Capel Moreia. Cafodd Lloyd George ei gladdu yn Llanystumdwy.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Yn Llanystumdwy ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, pan ddychwelodd Lloyd George yma i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith gan alw am bleidleisiau i ferched. Cafodd y merched eu llusgo o'r neuadd yn filain iawn a'u curo. Cafodd un ohonynt ei dillad wedi’u tynnu a bu bron i un arall gael ei thaflu oddi ar pont Afon Dwyfor gerllaw, ac i’r creigiau oddi tano.[3]

Mae'n bentref deniadol lle gwelir nifer o fythynnod a thai sy'n dyddio o'r 17g a'r 18g, wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. Mae pont ddwy fwa sy'n dyddio o'r 17g ar Afon Dwyfawr ar gyrion Llanystumdwy.

Tŷ Newydd, Llanystumdwy

Pobl o Lanystumdwy golygu

Atyniadau golygu

 
Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy.

Ceir Amgueddfa am fywyd a gwaith Lloyd George yn y pentref. Mae ei fedd, a gynlluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis (Portmeirion), ynghyd â'r capel coffa gerllaw, dros yr hen bont ar gyrion y pentref.

Mae Tafarn y Plu yn dafarn Gymreig draddodiadol a adeiladwyd yn 1813 ac sydd prin wedi newid ers hynny.

Addysg golygu

Lleolir Ysgol Llanystumdwy yn y pentref. Mae'r ysgol gynradd Gymraeg hon yn rhan o dalgylch Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanystumdwy (pob oed) (2,080)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanystumdwy) (1,553)
  
77%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanystumdwy) (1528)
  
73.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanystumdwy) (271)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Winning the vote for women in Wales". llgc.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-14. Cyrchwyd 31 Mawrth 2016.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.