Sarah Patterson
actores
Actores ffilm Seisnig yw Sarah Patterson (ganed 22 Ebrill 1972).
Sarah Patterson | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1972 y Deyrnas Unedig |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor ffilm |
Cychwynodd ym myd actio ffilm yn actio rhan Rosaleen, cymeriad seiliedig i gryn raddau ar Hugan Goch Fach, yn ffilm ffantasi-arswyd The Company of Wolves (1984) gan Neil Jordan ac Angela Carter. Roedd hi'n 12 oed ar y pryd, a chafodd y ffilm ei ddisgrifio gan un feirniad fel "Lolita meets the Werewolf". Yn 1987 serenodd gyda Diana Rigg fel Eirawen mewn ffilm ffantasi arall, Snow White. Er nad oedd y ffilmiau hyn yn llwyddiant mawr o ran gwerthiant, enillodd yr actores gryn statws cwlt mewn canlyniad. Ar ôl y ffilmiau hyn dydi hi 'mond wedi ymddangos mewn ambell ffilm gan gwmni annibynnol Lisa Gornick, Valiant Doll: Do I Love You? oedd ei ffilm gyntaf mewn degawd.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Sarah Patterson ar imdb
- (Saesneg) Sarah Patterson ar 'The Women of Horror Movies'