Mae Sbarc Galeri yn brosiect celf cynhwysfawr sy’n cynnig ystod eang o brofiadau celfyddydol i blant a phobl ifanc. Cynhelir dosbarthiadau wythnosol yn y meysydd cerddoriaeth, drama a perfformiadau cyson yn dymhorau ysgolion. Yn ogystal, mae gweithdai amrywiol yn cael eu cynnal yn ystod y gwyliau er enghraifft – marathon roc, ysgolion haf sioeau cerdd, prosiectau ffilm, cyrsiau ffotograffiaeth a sgriptio. Lansiwyd prosiect Sbarc yng Ngaleri Caernarfon yn 2000.[1]

Nodir ar lenyddiaeth y prosiect Sbarc Galeri fod "unrhyw beth yn bosibl...drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy".

Cyfeiriadau golygu

  1.  Galeri Caernarfon - Amdanon Ni - Sbarc Galeri. Adalwyd ar 4 Mawrth 2019.