Galeri Caernarfon

Canolfan Celfyddydau a Mentrau Creadigol yng Nghaernarfon

Canolfan Mentrau Creadigol yng Nghaernarfon yw Galeri a agorodd yn swyddogol ym mis Ebrill 2005.[1]

Galeri Caernarfon
Mathcanolfan y celfyddydau, sinema, theatr Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaernarfon Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.145112°N 4.268737°W Edit this on Wikidata
Map

Mae adeilad y Galeri yn gynnwys theatr a sinema gyda 394 o seddi, safle celf, 2 stiwdio ymarfer fawr a 3 stiwdio ymarfer llai. Mae gofod ar gyfer 24 o unedau swyddfa yn ogystal â ystafelloedd cyfarfod a'r Café Bar. Trefnir rhwng 400 – 500 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, hefo dros 40,000 o docynnau yn cael ei werthu bob tro. Ar 21 Medi 2018 agorwyd sinema newydd ar gyfer y Galeri, un sy’n cynnwys 119 sedd. Daeth yr actor Rhys Ifans i agor y sinema newydd yn swyddogol.[2][3]

Gall theatr Galeri eistedd 394 o bobl neu gellir defnyddio'r gofod gyda 300 yn sefyll, neu arddull cabaret am hyd at 150. Gellir dod o hyd i 6 sedd cadeiriau olwyn penodol yn y rhes flaen, gyda 6 ychwanegol yn y balconi.

Datblygiad golygu

Datblygwyd cynlluniau'r Galeri gan fenter gymunedol ddi-elw Cwmni Tref Caernarfon Cyf (Galeri Caernarfon Cyf erbyn 2018), sy'n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu. Adeiladu'r Galeri oedd prosiect mwyaf yr Ymddiriedolaeth ar y pryd. Cychwynnodd y gwaith adeiladu yn 2004 gan y contractwyr Watkin Jones ac fe gostiodd £7.5 miliwn i'w adeiladu.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Galeri Caernarfon yn dathlu 10 mlynedd , BBC Cymru Fyw, 11 Ebrill 2015. Cyrchwyd ar 12 Chwefror 2019.
  2. Galeri Caernarfon i ehangu gydag estyniad newydd , BBC Cymru Fyw, 12 Tachwedd 2015. Cyrchwyd ar 12 Chwefror 2019.
  3. 7,000 yn gwylio ffilmiau Galeri Caernarfon , Golwg360, 2 Tachwedd 2018. Cyrchwyd ar 12 Chwefror 2019.

Dolenni allanol golygu