Ci sbits sy'n tarddu o'r Ffindir ac sy'n gi cenedlaethol y wlad honno yw'r Sbits Ffinnaidd (Ffinneg: Suomenpystykorva). Datblygodd y brîd hwn er mwyn hela pob math o anifeiliaid, o gnofilod i eirth.[1] Mae'n cyfarth yn barhaol, gan wneud sŵn yn debyg i iodl, er mwyn tynnu sylw'r heliwr i leoliad y helfil. Defnyddir yn y Ffindir fel helgi hyd heddiw, ond mewn gwledydd eraill fe'i gedwir fel ci cymar.[2]

Sbits Ffinnaidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Gwlady Ffindir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae ganddo daldra o 39 i 50 cm (15.5 i 20 modfedd) ac yn pwyso 11 i 13 kg (25 i 30 o bwysau). Mae ganddo wyneb sy'n debyg i lwynog, gyda thrwyn pigfain a chlustiau main, ac mae ei gynffon yn troi'n ôl dros ei gefn. Mae ganddo gôt drwchus a syth o liw coch euraidd, gydag ychydig o flew duon ar ei gefn a'i gynffon ac weithiau smotyn neu streipen wen ar y frest. Mae gan rai o'r gwrywod wrych o flew ar draws eu hysgwyddau. Mae gan y Sbits Ffinnaidd natur fywiog ac mae'n warchotgi addas.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Morris, Desmond. (2001). Dogs: The Ultimate Dictionary of Over 1,000 Dog Breeds. Trafalgar Square Publishing, t. 316. ISBN 1-57076-219-8.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Finnish spitz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.