Scatman John
sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1942
Cerddor Americanaidd oedd John Paul Larkin (13 Mawrth 1942 – 3 Rhagfyr 1999) a oedd yn perfformio dan yr enw Scatman John. Cyfunodd cerddoriaeth dawns a chanu 'scat' a daeth i enwogrwydd byd-eang yn 53 oed am ei ganeuon "Scatman (Ski Ba Bop Ba Dop Bop)", "Scatman's World" yn 1995 ac "Everybody Jam!" yn 1997.
Scatman John | |
---|---|
Ffugenw | Scatman John |
Ganwyd | Jonathan Paul Larkin 13 Mawrth 1942 El Monte |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1999 o canser yr ysgyfaint Los Angeles |
Label recordio | America Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | scat singer, pianydd, cyfansoddwr, cerddor jazz, sgriptiwr |
Arddull | jazz, House |
Gwobr/au | ECHO Awards |
Roedd ganddo atal dweud difrifol pan yn blentyn a darganfyddodd ganu scat ar recordiau gan Ella Fitzgerald a Louis Armstrong, ymysg eraill.
Cyfeiriadau
golygu Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.