Canser yr ysgyfaint

Mae canser yr ysgyfaint, a elwir hefyd yn garsinoma'r ysgyfaint,[1] yn diwmor ysgyfaint ffyrnig lle mae celloedd ym meinweoedd yr ysgyfaint yn tyfu'n afreolus.[2] Gall y fath dwf ledaenu tu hwnt i'r ysgyfaint drwy broses metastasis, a hynny i feinweoedd cyfagos neu hyd yn oed rannau eraill o'r corff.[3] Mae'r rhan fwyaf o ganserau sy'n dechrau yn yr ysgyfaint, a elwir yn ganserau sylfaenol yr ysgyfaint, yn garsinomâu. Y ddau brif fath yw carsinoma ysgyfaint celloedd bychain (SCLC) a charsinoma ysgyfaint digelloedd bychain (NSCLC).[4] Ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin y mae peswch (gan gynnwys peswch gwaed), colli pwysau, prinder anadl, a phoenau ynghylch y frest.[5]

Canser yr ysgyfaint
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y system resbiradol, afiechyd yr ysgyfaint, lung neoplasm, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
SymptomauPoen y frest, peswch, hemoptysis, blinder meddwl, colli pwysau, anorecsia, diffyg anadl, gwichian wrth anadlu edit this on wikidata
AchosAsbestosis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achosir y mwyafrif helaeth (85%) o achosion canser yr ysgyfaint gan arfer ysmygu tybaco hirdymor.[6] Ceir tua 10–15% o achosion mewn pobl nad ydynt erioed wedi ysmygu.[7] Dim ond oddeutu 10-15% o ddioddefwyr sydd heb arferiad ysmygu. Mae'n bosib esbonio'r achosion hynny drwy gyfuniad o ffactorau genetig ynghyd â datguddiad i nwy radon, asbestos, mwg ail-law, neu fathau eraill o lygredd amgylcheddol.[6] Gellir archwilio canser yr ysgyfaint drwy radiograffau'r frest a sganiau tomograffeg cyfrifiadurol (CT). Caiff diagnosis ei gadarnhau gan fiopsi sydd fel arfer yn cael ei berfformio gan froncosgopi neu gyfarwyddyd CT.[8]

Rhaid osgoi ffactorau risg sylfaenol er mwyn atal y clefyd, er enghraifft ysmygu a datguddiad i amgylched llygredig.[9] Mae'r driniaeth a roddir a'r canlyniadau hirdymor yn ddibynnol ar y math o ganser, y bennod (graddfa lledaenu), ynghyd ag iechyd cyffredinol y dioddefwr. Ni ellir gwella'r rhan fwyaf o achosion. Mae'r triniaethau cyffredin yn cynnwys llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi. Caiff NSCLC ei drin yn achlysurol drwy lawdriniaeth, fel arfer y mae SCLC yn ymateb yn well i gemotherapi a radiotherapi.[10]

Yn 2012, effeithiodd canser yr ysgyfaint ar 1.8 miliwn o bobl ar draws y byd, gan arwain at 1.6 miliwn o farwolaethau.[11] Hwn felly sy'n achosi'r nifer mwyaf o farwolaethau cysylltiedig â chanser ymysg dynion, a'r nifer mwyaf cyffredin ond un ymysg menywod, ar ôl canser y fron.[12] Yr oedran mwyaf cyffredin ar gyfer diagnosis yw 70. Yn yr Unol Daleithiau, yn yr un flwyddyn, goroesodd 17.4% o ddioddefwyr am bum mlynedd o leiaf wedi eu diagnosis,[13] ond y mae'r cyfartaledd hwnnw dipyn yn is yn y byd sy'n datblygu.[14]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Lung Carcinoma: Tumors of the Lungs". Merck Manual Professional Edition, Online edition. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Awst 2007. Cyrchwyd 15 Awst 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Non-Small Cell Lung Cancer Treatment –Patient Version (PDQ®)". NCI. 12 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Chwefror 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Falk, S; Williams, C (2010). "Chapter 1". Lung Cancer—the facts (arg. 3rd). Oxford University Press. tt. 3–4. ISBN 978-0-19-956933-5.
  4. "Lung Cancer—Patient Version". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Horn, L; Lovly, CM; Johnson, DH (2015). "Chapter 107: Neoplasms of the lung". In Kasper, DL; Hauser, SL; Jameson, JL; Fauci, AS; Longo, DL; Loscalzo, J (gol.). Harrison's Principles of Internal Medicine (arg. 19th). McGraw-Hill. ISBN 978-0-07-180216-1.
  6. 6.0 6.1 Alberg, AJ; Brock, MV; Samet, JM (2016). "Chapter 52: Epidemiology of lung cancer". Murray & Nadel's Textbook of Respiratory Medicine (arg. 6th). Saunders Elsevier. ISBN 978-1-4557-3383-5.
  7. "Lung cancer occurrence in never-smokers: an analysis of 13 cohorts and 22 cancer registry studies". PLoS Medicine 5 (9): e185. September 2008. doi:10.1371/journal.pmed.0050185. PMC 2531137. PMID 18788891. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2531137.
  8. Lu C, Onn A, Vaporciyan AA, et al. (2010). "Chapter 78: Cancer of the Lung". Holland-Frei Cancer Medicine (arg. 8th). People's Medical Publishing House. ISBN 978-1-60795-014-1.
  9. "Lung Cancer Prevention–Patient Version (PDQ®)". NCI. 4 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. Chapman, S; Robinson, G; Stradling, J; West, S; Wrightson, J (2014). "Chapter 31". Oxford Handbook of Respiratory Medicine (arg. 3rd). Oxford University Press. t. 284. ISBN 978-0-19-870386-0.
  11. World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 5.1. ISBN 92-832-0429-8.
  12. World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 1.1. ISBN 92-832-0429-8.
  13. "Surveillance, Epidemiology and End Results Program". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  14. Majumder, edited by Sadhan (2009). Stem cells and cancer (arg. Online-Ausg.). New York: Springer. t. 193. ISBN 978-0-387-89611-3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Hydref 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: extra text: authors list (link)