Ci sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Schnauzer.[1] Ceir tri brîd: Mawr, Safonol, a Bach. Ystyrir y meintiau Mawr a Safonol yn gŵn gwaith a'r maint Bach yn ddaeargwn.[2]

Schnauzer
Enghraifft o'r canlynoldog breed type Edit this on Wikidata
MathDaeargi Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGiant Schnauzer, Standard Schnauzer, Miniature Schnauzer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

O'r Schnauzer Safonol y datblygodd y ddau frîd arall. Mae paentiadau ohono sy'n dyddio'n ôl i'r 15g. Yn wreiddiol roedd yn warchotgi a llygotgi gydag enw fel ci dewr a deallus. Mae ganddo drwyn barfog a chôt o flew gwrychog o liw du neu frith "pupur a halen". Mae ganddo daldra o 43 i 51 cm (17 i 20 modfedd). Mae'n gi cryf sy'n boblogaidd fel gwarchotgi a chi cymar, a negesydd, ci'r Groes Goch, a chi heddlu.[2]

Datblygodd y Schnauzer Bach o Schnauzers Safonol bychain ac Affenpinsieri. Arddangoswyd fel brîd ar wahân yn gyntaf ym 1899. Mae ganddo daldra o 30.5 cm i 35.5 cm (12 i 14 modfedd). Mae ei gôt yn frith pupur a halen, arian a du, neu'n ddu. Er ei faint mae hefyd yn frîd cryf, ac yn fywiog, ac yn anifail anwes poblogaidd.[2]

Datblygodd y Schnauzer Mawr gan ffermwyr gwartheg Bafaraidd oedd ar eisiau ci gwartheg yn debyg i'r Schnauzer Safonol ond yn fwy o faint. I ddatblygu'r brîd hwn cafodd y Schnauzer Safonol ei groesi ag amrywiaeth o gŵn gwaith, ac yn hwyrach Ci Mawr Denmarc du. Mae'n gi cryf gyda chôt wrychog o liw pupur a halen, du, neu felyn a du. Mae ganddo daldra o 60 i 70 cm (23.5 i 27.5 modfedd). Yn ogystal â'i waith fel ci gwartheg cafodd ei ddefnyddio hefyd yn hanesyddol fel ci cigydd a gwarchotgi mewn bragdai. Ers dechrau'r 19g, defnyddiwyd fel ci heddlu ar draws yr Almaen.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [schnauzer].
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) schnauzer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.