Beiciwr mynydd proffesiynol Seisnig ydy Scott Beaumont (ganwyd 2 Mehefin 1978, Droitwich Spa, Swydd Gaerwrangon), mae'n arbenigo yn nisgyblaethau Beicio mynydd lawr allt a 4x. Mae'n byw yn Kidderminster. Dechreuodd reidio BMX yn 4 oed, aeth ymlaen i ennill sawl teitl cenedlaethol. Bu'n Bencampwr BMX y Byd yn 1995 ac 1996.

Scott Beaumont
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnScott Beaumont
LlysenwBoom Boom
Dyddiad geni (1978-06-02) 2 Mehefin 1978 (46 oed)
Manylion timau
DisgyblaethBMX & Beicio Mynydd
RôlReidiwr
Math seiclwrBeicio Mynydd Lawr Allt & 4x
Tîm(au) Proffesiynol
2006-
Rocky Mountain
Prif gampau
Pencampwr y Byd
Golygwyd ddiwethaf ar
4 Hydref 2007

Dechreuodd reidio beic mynydd yn 1996. Roedd y ddisgyblaeth slalom ddeuol newydd gael ei chreu ac roedd timau beicio mynydd yn chwilio am reidwyr BMX profiadol i bontio i'r ddisgyblaeth newydd.

Pan gymerodd 4x le slalom ddeuol, newidiodd Beaumont i'r ddisgyblaeth hon. Mae'n dal i fod â proffil uchel ym myd beicio mynydd ym Mhrydain ac yn un o'r reidwyr elet mwyaf blaengar yng nghyfres cenedlaethol 4x Prydain.

Canlyniadau

golygu
1995
1af   Pencampwriaethau BMX y Byd, UCI
1996
1af   Pencampwriaethau BMX y Byd, UCI
2007
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Beicio Mynydd Prydain, 4x
1af Cymal Fort William, Cyfres Cenedlaethol 4x Prydain
1af Cymal 6, Redhill Extreme, Cyfres Cenedlaethol 4x Prydain

Dolenni allanol

golygu