Seciwlariaeth
(Ailgyfeiriad o Seciwlaraeth)
Cyfundrefn neu athrawiaeth athronyddol a moesegol sy'n credu mewn trefnu bywyd heb gyfeiriad at gred mewn Duw a chrefydd yn gyffredinol yw seciwlariaeth. Credir i'r gair ei hun gael ei fathu gan G. J. Holyoake (1817-1906) ym 1851. Mae'n perthyn yn agos i ddyneiddiaeth.
Enghraifft o'r canlynol | athroniaeth wleidyddol, ideoleg wleidyddol, mudiad athronyddol |
---|---|
Math | barn y byd |
Y gwrthwyneb | Theocrataeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae seciwlariaeth felly yn credu y dylid gwahanu'r seciwlar a'r crefyddol yn llwyr, ac yn gwrthod lle i eglwysi a chyfundrefnau crefyddol eraill mewn bywyd cyhoeddus ac yn enwedig yn y wladwriaeth a'r llywodraeth.
Un adwaith i dwf dylanwad seciwlariaeth ym mywyd y Gorllewin oedd y Syllabus Errorum a gyhoeddwyd gan y Pab Pïws IX ym 1864.