Sedna (planedyn)

asteroid

Planed gorrach yw Sedna (dynodiad planed llai 90377 Sedna; symbol: ⯲ ) sy'n teithio yn rhannau allanol Cysawd yr Haul ac sydd ar hyn o bryd yn rhan fewnol ei orbit. Hwn yw'r corff pellaf y gwyddys amdano sy'n cylchio'r Haul.[1] Ar hyn o bryd (2022), mae dros 90 Unedau Seryddol i ffwrdd, sef teirgwaith pellter Plwton oddi wrth yr Haul. Mae gan Sedna dryfesur o 1800 o gilometrau, ychydig yn llai na Phlwton.

Sedna
Enghraifft o'r canlynolgwrthrych ar wahân, blaned gorrach bosibl, corff neu wrthrych bychan yng Nghysawd yr Haul, Sednoid, trans-Neptunian object, asteroid Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod14 Tachwedd 2003 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan90376 Kossuth Edit this on Wikidata
Olynwyd gan(90378) 2003 WL23 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.85900164191136 ±4.3e-05 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Sedna wedi ei henwi ar ôl duwies môr yr Inuit.

Mae cylchdro Sedna yn un ofal dros ben a chanddo berihelion o ryw 75 Unedau Seryddol ac yn cymryd rhyw 10,500 o flynyddoedd i gylchio'r Haul. Mae hynny'n ei rhoi tu hwnt i Wregys Kuiper ond o flaen ochr fewnol Cwmwl Oort. Mae cyfansoddiad ffisegol Sedna'n ddirgelwch. Gall fod y rhan fwyaf o'i chyfansoddiad yn , ond mae'n debygol nad felly y mae. Bron yr unig beth y gellir dweud amdani ar hyn o bryd yw ei bod yn goch iawn ac ymddengys fod iâ, dŵr a methan yn absennol o'i harwyneb.

Nid Sedna yw'r "Blaned X" (y Ddegfed Blaned) a ragddyfalai llawer o seryddwyr cyn darganfyddiad Plwton. Roedd Planed X i fod yn gorff mwy ei faint.

Cyfeiriadau

golygu
  1. U+2BF2 ⯲. David Faulks (2016) 'Eris and Sedna Symbols,' L2/16-173R, Unicode Technical Committee Document Register.