Semioteg
(Ailgyfeiriad o Semioleg)
Gwyddor arwyddion a symbolau yw semioteg[1] neu semioleg.[2] Ymwna'r maes â'r holl agweddau o ymddygiad dynol sydd yn defnyddio arwyddion ac yn dehongli eu hystyron. Diffiniodd un o'r semiotegwyr cyntaf, yr ieithydd Ferdinand de Saussure, yr wyddor yn astudiaeth "bywyd arwyddion o fewn cymdeithas".[3]
Gwyddor gysylltiedig yw semanteg, sef astudiaeth ystyr iaith, a ellir ei hystyried yn gyd-ddisgyblaeth neu'n is-faes i semioteg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ semioteg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2017.
- ↑ semioleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2017.
- ↑ (Saesneg) semiotics. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Awst 2017.