Roedd Seres (Hebraeg: זֶרֶשׁ) yn wraig i Haman Tywysog yr Agagiad y sonnir amdani yn yr Hen Destament yn Llyfr Esther.[1]

Seres
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
PriodHaman Edit this on Wikidata
PlantDeg mab Haman Edit this on Wikidata

Cynghorodd Seres ei gŵr i baratoi crocbren uchel (50 cufydd) ac i grogi Mordecai arni.[2] Fodd bynnag, cynghorodd Haman yn ddiweddarach na fyddai’n gallu ennill yn erbyn Mordecai.[3] Gwrth-drowyd eu cynlluniau yn fuan pan orchmynnodd y Brenin Ahasferus i Haman gael ei grogi ar yr un crocbren yr oedd wedi'i baratoi ar gyfer Mordecai .[4]

Lladdwyd deg mab Haman (ac o bosibl Seres) wrth ymladd, a chrogwyd eu cyrff gan Ahasferus ar yr un crocbren y crogwyd eu tad arno.[5] Ni chofnodir tynged Seres.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net