Sex and the City (ffilm)
Mae Sex and the City ("Rhyw a'r Ddinas") (2008) yn ffilm gomedi rhamantaidd sy'n addasiad o gyfres HBO o'r un enw. Seiliwyd y gyfres deledu ar nofel o'r un enw gan Candace Bushnell. Dilyna'r ffilm fywydau pedair ffrind: Carrie Bradshaw (Sarah Jessica Parker), Samantha Jones (Kim Cattrall), Charlotte York Goldenblatt (Kristin Davis), a Miranda Hobbes (Cynthia Nixon), wrth iddynt fyw eu bywydau fel gwragedd yn eu 40au yn Ninas Efrog Newydd. Arferai'r gyfres deledu ddarlunio trafodaethau diflewyn ar dafod am ramant a rhywioldeb.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Michael Patrick King |
Cynhyrchydd | Michael Patrick King Sarah Jessica Parker Darren Star |
Ysgrifennwr | Michael Patrick King |
Serennu | Sarah Jessica Parker Kim Cattrall Kristin Davis Cynthia Nixon Chris Noth Candice Bergen Jennifer Hudson |
Cerddoriaeth | Aaron Zigman |
Sinematograffeg | John Thomas |
Golygydd | Michael Berenbaum |
Dylunio | |
Dosbarthydd | New Line Cinema Warner Bros. HBO Films |
Dyddiad rhyddhau | 30 Mai 2008, UDA |
Amser rhedeg | 145 munud |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $65 miliwn |
Refeniw gros | $413.4 miliwn |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Cafwyd premiere byd-eang y ffilm yn Sgwâr Leicester, Llundain ar y 12fed o Fai, 2008 a rhyddhawyd y ffilm i'r cyhoedd ar y 28ain o Fai, 2008 yn y DU ac ar y 30ain o Fai, 2008 yn yr Unol Daleithiau.
Cast
golygu- Sarah Jessica Parker fel Carrie Bradshaw
- Kim Cattrall fel Samantha Jones
- Kristin Davis fel Charlotte York Goldenblatt
- Cynthia Nixon fel Miranda Hobbes
- Chris Noth fel John James "Mr. Big" Preston
- Jennifer Hudson fel Louise, cynorthwyydd Carrie
- David Eigenberg fel Steve Brady
- Jason Lewis fel Smith Jerrod
- Evan Handler fel Harry Goldenblatt
- Willie Garson fel Stanford Blatch
- Mario Cantone fel Anthony Marantino
- Lynn Cohen fel Magda
- Candice Bergen fel Enid Frick
- Annaleigh Ashford fel Brenhines y Labeli
- Andre Leon Talley (cameo) fel executive Vogue
- Joseph Pupo fel Brady Hobbes, mab Miranda a Steve
- Alexandra a Parker Fong fel Lily York Goldenblatt, merch Charlotte a Harry
- Gilles Marini fel Dante
- Monica Mayhem fel cariad Dante Rhif 1
- Julie Halston fel Bitsy von Muffling
- Daphne Rubin-Vega fel Merch Llais babi
Cynigiwyd rôl cameo i Victoria Beckham ond bu'n rhaid iddi wrthod am ei fod yn gwrthdaro gydag ymarferion taith y Spice Girls.