Sgilti Ysgafndroed

Cymeriad chwedlonol Cymreig sy'n ymddangos yn y chwedl Culhwch ac Olwen yw Sgilti Ysgafndroed (Cymraeg Canol: Scilti Yscawntroet, Scilti Scawntroet). Mae'n un o nifer o gymeriadau chwedlonol a enwir yn y chwedl fel aelodau o lys Arthur.

Mae'n un o bum mab Erim, gyda Uchdrud, Eus, Henwas Edeinawg a Henbedestr. Roedd gan Henwas, Henbedestr a Sgilti gynneddfau arbennig a'u galluogai i redeg yn hynod o gyflym. Dywedir am Sgilti: "Pan ddeai hwyl cerdded arno wrth fynd ar neges ar ran ei arglwydd, ni fyddai'n chwilio am ffordd o gwbl, hyd yn oed os gwyddai'n iawn lle yr elai; ond os oedd coedwig yno, cerddai ar frig y coed, ac os oedd mynydd yno, cerddai ar flaen y cawn; a thrwy gydol ei oes ni phlygai conen dan ei draed, chwaethach torri, gan ysgafned ydoedd."[1]

Ceir cymeriad chwedlonol cyffelyb ym mytholeg Iwerddon, sef yr arwr Cailte mac Ronain, un o gydymdeithion Fionn mac Cumhaill.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rachel Bromwich a D. Simon Davies (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), llinellau 235-44. Aralleiriad o'r testun Cymraeg Canol.
  2. Bernhard Maier, Dictionary of Celtic religion and culture (Boydell Press, 2000).