Cymraeg Canol

iaith geltaidd

Mae Cymraeg Canol yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 12g i'r 14g. Mae llawer o lawysgrifau ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin, a thestunau Gyfraith Hywel Dda.

Nid llên draddodiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol - mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y Ffrangeg a'r Lladin.

Gellir gwahaniaethu rhwng Cymraeg Canol Cynnar a Chymraeg Canol Diweddar. Mae'r testunau hynaf, e.e., rhai y Cynfeirdd, yn perthyn i gyfnod Hen Gymraeg, ond wedi cael nodweddion yr iaith ddiweddaraf yn ystod eu trosglwyddo, ac felly mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng y ddwy elfen.

Mewn Cymraeg Canol yr ysgrifennwyd Pedair Cainc y Mabinogi a chwedlau eraill sy'n ymwneud â'r Brenin Arthur a'i gylch, sef Y Tair Rhamant a Culhwch ac Olwen, ynghyd â chwedlau brodorol fel Breuddwyd Macsen a Cyfranc Lludd a Llefelys.

Orgraff

golygu

Nid oedd orgraff safonol yng nghyfnod Cymraeg Canol fel yn yr iaith gyfoes. Dyma rai nodweddion amgen orgraff Cymraeg Canol nad ydynt yn bresennol yn yr iaith heddiw:

  • Defnyddir k a c am y sain [k] (dim ond c sydd mewn Cymraeg Diweddar).
  • Ni nodir y treiglad meddal a newidiadau cytseiniaid rhwng llafariaid sydd wedi darfod yn y Frythoneg (gweler Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg)
  • Nid oes modd safonol i nodi'r treiglad trwynol: gellir gweld sillafiadau fel yg gwlad, y ngwlad a.y.y.b.
  • Gall y llythyren /u/ olygu /f/ heddiw, yn arbennig rhwng llafariaid, felly ystauell, niuer. Defnyddiwyd y llythyren /f/ am y /ff/ heddiw.

Gramadeg

golygu

Seineg a seinyddiaeth

golygu

Gellir derbyn bod seiniau Cymraeg Canol yn debyg i seiniau Cymraeg Diweddar. Yr unig eithriad ydy'r sain a ysgrifennir fel /u/ [ʉ]; sain fel y ceir yn hus Norwyeg oedd honno, nid sain [ɨ, i] y tafodieithoedd cyfoes.

Mewn rhai testunau Cymraeg Canol, gwelir nodweddion tafodieithol sy'n debyg i'r rheini a geir heddiw: e.e., gall y sain [j] gael ei golli rhwng cytsain a llafariad, fel mewn llawer o dafodieithoedd y De. Gall /x/ (ch) gael ei newid i /h/ hefyd.

Morffoleg

golygu

Mae Cymraeg Canol yn nes i'r hen ieithoedd Celtaidd eraill, e.e., Hen Wyddeleg, yn ei morffoleg. Er enghraifft, ceir y terfyniadau -wŷs, -ws, -es, -as, ar gyfer y trydydd person unigol amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf -odd. Ceir hefyd ffurf 1 a 3 un. grff. kigleu ‘clywais, clywodd’ o'r ferf clywet ‘clywed’, sydd yn hynafol iawn ac yn cyfateb i'r Hen Wyddeleg ·cúala, -ae ‘clywais(t), -odd’ o'r ferf ro·cluinethar ‘mae’n clywed’.

Ceir mewn Cymraeg Canol ragor o ffurfiau lluosog i'r ansoddeiriau nac yn yr iaith gyfoes, e. e. cochion.

Roedd terfyniad lluosog enwol -awr yn gyffredin iawn mewn Cymraeg Canol, ond disodlwyd hyn gan y terfyniad -au.

Cystrawen

golygu

Fel mewn Cymraeg gyfoes ysgrifenedig, nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (Gwelodd y brenin gastell) a ddefnyddiwyd yn unig mewn Cymraeg Canol, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (Y brenin a welodd gastell). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych, a ddefnyddir yn aml mewn Cymraeg heddiw i bwysleisio rhywbeth. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy oedd y daeth yr elfen negyddol ni/na o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai Ni brenin a welodd gastell yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, Brenin ni welodd gastell = Welodd y brenin ddim castell).

Llyfryddiaeth

golygu

Gramadegau

golygu
  • D. Simon Evans Gramadeg Cymraeg Canol (yn Saesneg: A Grammar of Middle Welsh)

Astudiaethau a llyfrau eraill

golygu
  • Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)

Gweler hefyd

golygu