Ysgrifen gynffurf
System ysgrifennu aflinol sy'n tarddu o Fesopotamia'r henfyd yw ysgrifen gynffurf (hefyd cŷn-ysgrifen, arysgrif gynffurf).[1][2] Cafodd symbolau ar ffurf cŷn eu hysgythru ar lechi clai gan ddefnyddio ysbrifbin trionglog.
Enghraifft o'r canlynol | system ysgrifennu, system ysgrifennu logograffig, Sillwyddor, sgript naturiol, unicase alphabet |
---|---|
Math | sgript naturiol, system ysgrifennu logograffig |
Iaith | Swmereg, Acadeg, Eblaite, Elameg, Hetheg, Hurrian, Luwian, Urartian, Hen Perseg, Palaic, Ugaritic |
Dechrau/Sefydlu | 3000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Daeth i ben | 1 g CC |
Lleoliad | Y Dwyrain Agos |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymddangosodd ysgrifen ym Mesopotamia tua 3500 CC. Yn wreiddiol, arwyddion rhif a phictogramau oedd symbolau cynffurf, er defnydd gweinyddiaeth ariannol. Yn hwyrach datblygodd yr arwyddion i ddynodi synau, megis gwyddor lythrennau. System sillafol a logograffig yw'r ysgrifen gynffurf aeddfed: defnyddir y mwyafrif o arwyddion am air, ambell arwydd am sill, cyflenwadau seinegol i ddynodi ynganiad, a phenderfynyddion i ddynodi ystyr geiriau. Mae tua 500 o wahanol lythrennau. Daeth yr Aramaeg yn brif iaith lafar Mesopotamia tua diwedd y milflwyddiant cyntaf CC. Bu farw'r ysgrifen gynffurf tua'r 2g OC.
Defnyddid yr ysgrifen gynffurf ym Mesopotamia i ysgrifennu'r Swmereg, ac yn hwyrach yr Acadeg (a rennir yn ddwy dafodiaith: yr Asyrieg yn y gogledd a'r Fabiloneg yn y de). Yn hwyrach cafodd ei fabwysiadu gan ddiwylliannau eraill i ysgrifennu sawl iaith yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys yr Hetheg, yr Elameg, yr Hen Berseg a'r Wrarteg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [cuneiform].
- ↑ cynffurf. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Rhagfyr 2016.