Mewn rygbi'r undeb, dull o ailgychwyn y chwarae yn dilyn trosedd yw sgrym. Pan yn ffurfio sgrym, mae'r wyth chwaraewr o bob tîm sy'n cael eu hadnabod fel y 'pac' neu'r 'blaenwyr', yn rhwymo yn dair rhes yr un ac yn cyd-gloi â'r tîm arall. Ar y pwynt hwn, mae'r bêl yn cael eu bwydo i'r bwlch rhwng y ddau bac o flaenwyr ac maen nhw'n cystadlu am y bêl er mwyn ennill y meddiant. Gall timau gael eu cosbi am achosi i'r sgrym ddymchwel yn fwriadol, ac am beidio â rhoi'r bêl i mewn i'er sgrym yn gywir. Mae sgrym gan amlaf yn cael ei roi pan fydd y bêl wedi'i tharo ymlaen, y bêl wedi'i phasio ymlaen, neu bêl wedi mynd yn sownd mewn ryc neu sgarmes. Gall anafiadau ddigwydd oherwydd natur gorfforol sgrym, yn arbennig i'r chwaraewyr yn y rheng flaen.

Sgrym mewn gêm rhwng Ffranc a Chymru, 24 Chwefror 2007
Deiagram yn dangos safloedd y chwaraewyr o fewn i'r sgrym a'r rhifau ar eu crysau.

Yn y sgrym, mae'r rheng flaen yn cynnwys dau brop - pen rhydd a phen tynn (rhifau 1 a 3) - bachwr (2) rhyngddyn nhw. Y bachwr sydd fel arfer yn taro am y bêl er mwyn ei gwthio tuag at gefn y sgrym, er bod hawl gan unrhyw un o chwaraewyr y rheng flaen gystadlu amdani. Mae'r ail reng, sydd hefyd yn cael eu galw yn 'gloeon', (4 a 5) yn rhwymo â'i gilydd ac yn gosod eu pennau yn y ddau fwlch rhwng chwaraewyr y rheng flaen, ac yn defnyddio eu hysgwyddau i wthio. Bydd yr wythwr (8) yn y rheng ôl yn gwneud yr un peth i'r ail reng, a'r blaen asgellwyr (6 a 7) yn cysylltu bob ochr i'r sgrym ac yn helpu i'w atal rhag troi.

Y mewnwr (rhif 9) sy'n bwydo'r bêl i mewn i'r sgrym, a rhaid i'r bêl gael ei bwydo mewn llinell syth. Y mewnwr sydd hefyd fel arfer yn ei chasglu wrth draed yr wythwr er mwyn symud ymlaen i ran nesaf y chwarae. Mae hawl gan yr wythwr hefyd i godi'r bêl unwaith y bydd wedi dod ymhellach na'r ail reng.

Fel sawl agwedd o rygbi'r undeb, mae'r sgrym wedi esblygu ers i'r gêm gael ei dyfeisio yn y 19g.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Verdon, Paul (2000). Born to Lead: The Untold Story of the All Black Test Captains. Auckland, Seland Newydd: Celebrity Books. t. 262. ISBN 1-877252-05-0.