Sgwrs:Alexander II, brenin yr Alban

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Sanddef

Mae John Davies (Hanes Cymru) yn defnyddio'r ffurf Alexander wrth gyfeirio at frenhinoedd yr Alban. Yn achos Alexander the Great ac Alexandria mae Geiriadur yr Academi yn defnyddio Alecsander Fawr ac Alecsandria. Dw'i ddim yn awgrymu y dylid newid y ffurf Alexander wrth gyfeirio at frenhinoedd yr Alban, ond yn achos Alecsander Fawr ac enwau'r pabau yr arfer yw i gymreigio'r enw (er enghraifft mae John Davies yn defnyddio Innosent yn lle Innocent yn Hanes Cymru) Sanddef 23:32, 8 Chwefror 2007 (UTC)SanddefAteb

Cytunaf yn llwyr yn achos 'Alecsander Fawr' ac 'Alecsandria', wrth gwrs - maen nhw'n ffurfiau a geir yn y Gymraeg ers cannoedd o flynyddoedd ac yn gyfarwydd i bawb. 'Alexander Mawr' oedd y ffurf arferol yn Gymraeg Canol, gyda llaw. Dwi'n cyfaddef mod i ddim yn deall y rhesymeg tu ôl i Gymreigio enwau brenhinoedd a breninesau estron, serch hynny. Pam 'Alexander' yn achos brenhinoedd yr Alban? Dydi o ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Pwy arall sy'n cael ei eithrio? Dwi'n meddwl dylem ni fod yn ochelgar wrth Gymreigio enwau Lladin a Groeg hefyd; iawn os ydynt yn enwau sydd wedi ennill eu plwyf ond mae'n gallu bod yn ddryslyd. Cofiwch bydd pobl yn chwilio am yr enwau 'ma! Amser i ni sefydlu canllaw o ryw fath ond does neb yn cytuno (wna i ddim atgyfodi'r ddadl ynglŷn â ffurfiau'r Atlas bondigrybwyll rwan!). Anatiomaros 23:53, 8 Chwefror 2007 (UTC)Ateb

Dim syniad am Alexanderau'r Alban. Mae llawer o enwau brenhinoedd yr Alban yn cael eu cymreigio, fel Iago a Gwilym y Llew. Efallai mae haneswyr yn dilyn cynsail llyfrau hanes eraill yn y Gymraeg. Dw'i'n neud modiwl hanes ar hyn o bryd, efallai fe fydd rhywun yn yr adran Hanes sy'n gallu egluro'r peth (os oes eglurhad o gwbl!). Sanddef 00:05, 9 Chwefror 2007 (UTC)SanddefAteb

Nôl i'r dudalen "Alexander II, brenin yr Alban".