Sgwrs:Anwythiant electromagnetig
Symud/Hollti Tudalen golygu
Yn hytrach na chywiro iaith y tudalen hwn yn unig, rwy'n credu bod angen symud/hollti'r tudalen i osgoi dryswch. Y ddau fath o anwythiad cyffredin ydy anwythiad electrostatig ac anwythiad electromagnetig. Mae'n edrych yn debyg na'r ail oedd bwriad gwreiddiol yr erthygl ac anwythiad electromagnetig yw'r tudalen pwysicaf i mi, er bod lle i greu egin i'r ddau fel man cychwyn, e.e.:
Anwythiad Electrostatig golygu
Anwythiad electrostatig yw'r newid yn nosbarthiad gwefrau mewn gwrthrych o ganlyniad i effaith wefrau cyfagos.
Tudalen defnyddiol o ran y gallu i gysylltu gyda'r effaith cyfarwydd o statig gyda balŵn neu ddillad
Anwythiad Electromagnetig golygu
Anwythiad electromagnetig yw ffurfiant grym electromotif (gallu rhoi foltedd yn lle grym emf) dros ddargludydd trydanol mewn maes magnetig newidiol.
Effaith pwysig iawn ar gyfer generaduron a newidyddion. Y ddau ddefnydd yn gyfarwydd i fyfyrwyr TGAU
Buaswn yn ystyried symud y tudalen yma i anwythiad electromagnetig fy hun, ond does posib gwneud hynny ar gyfrif newydd a dydw i ddim eisiau gorgyrraedd gyda chyfrif newydd beth bynnag. Ar hyn o bryd does dim eisiau rhoi gormod o wybodaeth wyddonol ar y tudalennau gan nad oes digon o fanylder ar dudalennau cyfatebol fel Grym electromotif ond mae lle i'r ddau dudalen ehangu ar sail defnyddiau'r ddwy ffenomen.
--Iar Mewn Coeden (sgwrs) 21:58, 26 Awst 2019 (UTC)
- Rwy wedi newid enw'r dudalen a'i gysylltu gyda 'Electromagnetic induction' yn Wikipedia. Does dim o werth yma beth bynnag felly rhwydd hynt i ti newid y dudalen yma nawr. --Dafyddt (sgwrs) 11:48, 27 Awst 2019 (UTC)