Shwmae, Dafyddt! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,423 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Deb 19:27, 22 Ionawr 2010 (UTC)Ateb

a chroeso o finnau golygu

Helo a chroeso. Jyst er eich hysbysrwydd, mae defnyddiwr aml arall yng Nghaerdydd, sef Defnyddiwr:Ben Bore. Cofion, Luke 09:32, 23 Ionawr 2010 (UTC)Ateb

Pel-feryn ayb golygu

Dw i di ffindio chydig am Joseph Henry Hughes o Firmingham a gofrestrodd batent am bêl-feryn amgen yn 1877 ac wedi ei ychwanegu at dy ddwy erthygl. Gobeithio fod hyn yn dderbyniol gen ti. Basa ffindio chwaneg am y ddau wron yma'n dda! Diolch am yr ysgogiad! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:12, 12 Tachwedd 2015 (UTC)Ateb

Ton ddisgyrchol golygu

Tybed a wnei di wiro'r erthygl; dw i wedi cyfuno dwy ran - ti a finna; do'n i ddim yn sylweddoli mai heddiw y sgwennaist hi! Fel cychwynwr yr erthygl, gen ti mae'r gair olaf! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:56, 11 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Diolch am yr ychwanegiadau! Wnes i ddechrau cyfieithu cwpl o ddiwrnodau yn ôl am mod i'n gwybod fod y cyhoeddiad yn dod. Dwi ddim yn siwr faint pellach fyddai'n ehangu'r erthygl ar hyn o bryd 'ta beth. --Dafyddt (sgwrs) 10:35, 12 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Y Cynorthwydd Golygu golygu

Dw i wedi addasu a chyfieithu'r rhyngwyneb, ond heb ei dreialu eto. Unrhyw syniadau / awgrymiadau tyrd a nhw! Neu eu cyfieithu'n uniongyrchol wrth gwrs. Dw i di defnyddio 'dalen' yn hytrach na 'thudalen' gan mai un ochr sydd gan y sgrin! A hefyd, mae'n symlach! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:44, 26 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig golygu

Helo! Diolch am gyfieithu gymaint o dudalennau ar Wicipedia:Deffro'r Ddraig/Erthyglau hanfodol. Hoffi di gofrestru'n swyddogol gyda'r gystadleuaeth fan hyn (dan y pennawd "Yn y gystadleuaeth") er mwyn cael cyfle i ennill gwobr am dy waith? Ham II (sgwrs) 20:09, 30 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Diolch, wnai gofrestru. O'n i heb ystyried y gystadleuaeth i ddweud y gwir, ond dwi'n rhagweld fydd gen i lai o amser dros yr wythnosau nesaf beth bynnag --Dafyddt (sgwrs) 20:26, 30 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
Croeso! Mae'r gystadleuaeth yn dechrau yn 4 a hanner amser awr! Pob lwc!Dr. Blofeld (sgwrs) 18:39, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
Yet to score, [1], start an article and get some points Dafyddt!Dr. Blofeld (sgwrs) 09:10, 5 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
@Dr. Blofeld: Dafyddt notes (above) that he will be very busy during the next few weeks. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 18:23, 5 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Diolch...CC! golygu

Dw i'n deall beth oeddet yn ei feddwl rwan! Sut goblyn ddigwyddodd hynny! dwn i ddim; ond fy mai i ydy o! Oedd na lawer? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:58, 9 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Na, mond rhyw bymtheg yn 16CC nid 16G. Roedd ychwanegu'r categoriau yn 20G/21G yn gyfle da i fynd drwy'r cofnodion a chywiro fformat dyddiadau a camgymeriadau bach. --Dafyddt (sgwrs) 16:02, 9 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Diolch Dafydd! Nol i'r ardd rwan! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:11, 9 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Nodyn Categoriau Genedigaethau golygu

Haia Dafydd! Dw i'n gweld dy fod wrthi'n ychwanegu'r Nodyn:Catgeni. Dw i heb weld hwn o'r blaen! Ond o be wela i, ar dudalennau Categoriau mae'n cael ei osod (fel hwn. Dw i'n meddwl. Os ti'n meddwl ei fod yn bwysig / defnyddiol, efallai bod modd defnyddio'r bot (Bot-Twm Crys) i'w osod ar y miloedd o erthyglau. Byddai angen dipyn o waith i gael y csv yn ei le yn gynta. Dw i'n gweithio ar db o ddarpar erthyglau ar adar gydag enwau Cymraeg efo Gwyn (Cell Danwydd) ar hyn o bryd, fodd bynnag. Be ti'n feddwl? Ti'n meddwl ei fod yn ddefnyddiol? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:13, 25 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

A! Ar y dudalen categori ti yn ei roi! Gwych! Does na ddim cymaint o'r rheiny! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:14, 25 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000 Haia. O be wela'i, mae'r nodyn yn bodoli ar rhan fwyaf o'r tudalennau categori, ac yn creu yr is-gategoriau cywir (blwyddyn/degawd) a'r bar dyddiad fel fod hi'n bosib symud yn hawdd lawr y blynyddoedd. Mae ar goll o rai flynyddoedd cynnar, felly dwi'n ei ychwanegu, er sdim llawer ohonyn nhw i fynd (wnes i fynd drwy'r categori marwolaethau o'r blaen). Efallai'n fase'n ddefnyddiol cael bot i greu categori geni/marwolaeth i bob blwyddyn lle nad yw'n bodoli? Er mae na gannoedd o flynyddoedd lle na fyddai unrhyw erthygl yn y categori, felly dwi'n amau'r defnydd. Ond mi fyddai creu dudalen ar ddechrau/diwedd bob degawd yn handi e.e. 1239/1250 --Dafyddt (sgwrs) 16:22, 25 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Gwych! Tyrd ag enghraifft o ddalen ar ddechrau/diwedd bob degawd. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:54, 25 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Wedi gorffen nôl at y ganrif gyntaf felly dim mwy i wneud. Dyma un enghraifft o dudalen degawd [2] lle nad oes categori 1169 na 1180. Dyna gyd sy angen yw creu un 1169 gyda {{cat-geni|116|9|1159|1170}}. Mae'n ymddangos nad oes llawer o dudalennau fel hyn felly mae'n bosib fod e'n haws i fi fynd drwy'r degawdau yn creu rhai ar goll.--Dafyddt (sgwrs) 17:03, 25 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
O ce; gwych! Rho wybod os fedra i helpu! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:48, 26 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Participate in the Ibero-American Culture Challenge! golygu

Hi!

Iberocoop has launched a translating contest to improve the content in other Wikipedia related to Ibero-American Culture.

We would love to have you on board :)

Please find the contest here: https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Translating_Ibero_-_America/Participants_2016

Hugs!--Anna Torres (WMAR) (sgwrs) 14:20, 10 Mai 2016 (UTC)Ateb

Categoriau golygu

Cofia fod AWB yn dwlsyn reit dda i greu torf o ddalennau sy'n tarddu ddata, pethe undono, llafurus fel rheol. Mi fyddai'n defnyddio atodyn bach CSV hefyd. Mae dolen yn fama. Ond i greu erthyglau, mi fydda i'n gofyn caniatad y gymuned, ac yn creu tua 5 fel peilot yn gyntaf. Dwn i ddim os ydy hi'n syniad da gwneud categoriau gwag, chwaith, oni bai fod siawn go dda y cant eu llenwi! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:42, 23 Mai 2016 (UTC)Ateb

Ie, dwi wedi bwriadu edrych ar AWB er mwyn gwneud addasiadau. Dwi'm yn gweld y pwynt chwaith o greu categoriau nol at y flwyddyn dot, er mae'n syndod faint o gategoriau 'coll' sydd yna. Y peth mwyaf defnyddiol gyda categoriau blwyddyn yw creu tudalennau ar ddechrau/diwedd pob degawd/canrif sy'n gwneud hi'n hawdd i neidio trwyddyn nhw gyda'r bar llywio. Diolch! --Dafyddt (sgwrs) 15:51, 23 Mai 2016 (UTC)Ateb

Pen Gwyn a Mistar Urdd golygu

Diolch am fy atgoffa am fodolaeth ffirind pennaf Mistar Urdd rwy'f wedi creu dudalen newydd i Pen Gwyn yn hytrach na dolen canol dalen iddo - gobeithio nad ydwyf wedi pechu o wneud AlwynapHuw (sgwrs) 07:21, 2 Mehefin 2016 (UTC)Ateb

Grêt, diolch. O'n i ddim yn sylweddoli fod cymaint i ddweud am Ben Gwyn! --Dafyddt (sgwrs) 09:11, 2 Mehefin 2016 (UTC)Ateb

Wici mobile ar dabled golygu

Wel wir mae na waith ar y fersiwn tabled m. Mae llawer o'r botymau heb eu cyfieithu ee Talk! Diolch am gywiro fy ngolygiad ar gwmniau cydweithredol, fedrith rywun flocio'r cena drwg plis? Key-hole surgery ydy golygu wici ar ffon neu dabled. Nodyn:PinglLlywelyn2000lAdamllDeb Fedrwn ni gael y fersiwn m / mobile i weithio'n iawn? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:00, 23 Gorffennaf 2016 (UTC) '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:00, 23 Gorffennaf 2016 (UTC)Ateb

Request golygu

Hello.

Could you create the article of the prominent Turkish-Jewish economist Dani Rodrik in Welsh Wikipedia?

Thank you.

Golygathon yng Nghaerdydd! golygu

Helo Dafydd. Fi'n siŵr bod chi wedi gweld yn barod ond bydd golygathon bach yn yr amgueddfa yng Nghaerdydd dydd Sadwrn nesaf. Mae croeso mawr i chi dod draw, a chofio pasio'r manylion ymlaen i unrhyw un efo diddordeb yn gerddoriaeth, neu Wici yn gyffredinol. Diolch yn fawr Jason.nlw (sgwrs) 09:54, 20 Mawrth 2017 (UTC)Ateb

You are invited! golygu

 
You are invited...
 

The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.

  • Hosts: The University of Edinburgh and Wikimedia UK
  • Supporting: Celtic & Indigenous Languages.
  • Objective: The main objective for Celtic Knot 2017 is the coming together of practitioners in the same room at same time; strengthening the bonds of those working to support language communities into a 'knot' and leading into action. Attendees can expect to learn about and discuss innovative approaches to open education, open knowledge and open data that support and grow language communities.
  • Date: 6 July 2017 - Booking is now open.

Stinglehammer (sgwrs) 22:38, 22 Mai 2017 (UTC)Ateb

Grwp newydd: Wikimedia Cymru golygu

Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Gweler: Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:24, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)Ateb

Sylw golygu

Diolch am gywiro'r llanast wy'n ei alw'n fy "erthyglau" Dafydd. Dwi yn ceisio prawf-ddarllen yr hyn dwi'n ei ysgrifennu ond o syllu ar bethau am oesau dwi'n gweld pethau a ddylai fod yn amlwg! Gobeithio nad yw'n broblem i mi barhau i ddibynnu ar eraill am "fan gywiriadau". Figaro-ahp (sgwrs) 07:58, 18 Awst 2017 (UTC)Ateb

@Figaro-ahp:Dim problem. Dwi'n gwybod fy hun fod ail/trydydd pâr o lygaid wastad yn help mawr. Mae'n dda gweld mwy o erthyglau amrywiol a mae'n eitha diddorol dysgu am y pwnc drwy ddarllen erthyglau a'i gywiro neu ehangu lle bo angen.--Dafyddt (sgwrs) 09:38, 18 Awst 2017 (UTC)Ateb

Gwybodlen person/Wicidata golygu

Braf gweld y wybodlen yn cael ei hychwanegu i'r erthyglau. Cofia fod angen eu gwiro wedyn, ac oes oes iaith arall yn ymddangos yna bydd yn rhaid clicio ar y ddolen (pensil bychan) a'i newid ar Wicidata. Mae rhybudd ar y wybodlen yn nodi: Cofiwch wiro'r wybodlen ar yr erthygl, ac os cyfyd problem, neu air Saesneg, yna dylid ei newid ar Wicidata, neu fe allwch atal gwybodaeth rhag lifo iddi ee Cenedl person.

Dw i di mynd drwy nifer ohonyn nhw, ond mae na lawer o waith efo rhai ee llenorion o Rwsia, ble ceir weithiau dwsin neu fwy o lyfrau - a'r rheiny'n cael eu nodi yn Saesneg yn hytrach nag yn Gymraeg/Rwsieg. Beth sy'n wych, wrth gwrs, ydy mai unwaith yn unig sy'n rhaid eu cyfieithu. Mae llawer iawn o'r gwobrau wedi'u gwneud gen i a'r cwbwl (bron!) o mathau gwahanol o waith. Mae'n dod! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:45, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb

Ie, dwi wedi bod yn cyfieithu rhai o'r achosion marwolaeth a chategoriau arall lle dwi'n gweld nhw (er mae rhai yn anodd ac yn disgwyl arbenigedd y Wici Iechyd!). Mae yna rhai gwallau sy'n anodd i'w trwsio am nad ydw i yn deall y broblem yn WiciData e.g. rhai cofnodion yn cynnwys mwy nag un dyddiad marw/geni neu briodweddau gwag. Mae rhai lluniau wedi ei dileu hefyd (ond dal yn bodoli fel cofnod). Dyw'r wybodlen ddim ddigon clyfar i ddeall hynny a felly weithiau yn dangos gwall 'Lua', er mae'n bosib fod gwaith yn mynd ymlaen ar y modiwl yn saesneg? Gan ei fod yn gronfa mor greiddiol dwi llai hyderus yn golygu WiciData a dileu/addasu cofnodion anghywir heb wybod pam bo nhw yna yn y lle cyntaf. --Dafyddt (sgwrs) 19:47, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn gofyn i ti fynd o dan y croen, Dafydd, dim ond cyfieithu pan weli Saesneg mewn gwybodlen. Os oes nam (ee pob a aned Cyn Crist), yna paid a'i roi arno, neu ataliad fe | suppressfields= cenedl dinasyddiaeth death_date! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb
O ran yr achosion lle ceir gwallau dw i wedi gofyn i Andrew Gray gymryd golwg arno; mi fydd yng Nghaerdydd ar y 6ed a chroeso i ti ddod draw i'w gyfarfod - dw i ar ganol trefnu cyfarfod Wicidata yno, ar y cyd efo mySociety - rhagor yn y Caffi fory. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:46, 22 Tachwedd 2017 (UTC)Ateb

Wici Mon golygu

Diolch Dafyddt am dynnu fy sylw i at hyn. Mi ai ati i gywiro ac ailstrwythuro! Mawr ddiolch. Prosiect Wici Mon (sgwrs)

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey golygu

WMF Surveys, 18:41, 29 Mawrth 2018 (UTC)Ateb

Review golygu

You may review Freestyle Script for fixing. Thanks. --Cyrus noto3at bulaga (sgwrs) 08:18, 4 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 01:39, 13 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Categori:Cwmnïau a sefydlwyd yn/ym ... golygu

Diolch Dafydd am dacluso fy llanast. Yn fy ffolineb, dewisais i un o'r ychydig fersiynau anghywir o'r peth i'w defnyddio fel patrwm. --Craigysgafn (sgwrs) 19:31, 14 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 00:49, 20 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Dalen amdanat golygu

Fedri di restru biog ohonot i mi greu erthygl arnat os gweli di'n dda? Yn wahanol i en-wici does gennym ni ddim rheol euraidd yn dweud na ddylai rhywun greu erthygl amdano'i hun, ond o fod wedi dy gyfarfod unwaith, dw i'n credu mai ti fyddai'r olaf i chwythu dy drwmped dy hun! Gwerthfawrogwn unrhyw arweiniad. Nid oeddwn yn sylweddoli dy fod wedi gwneud cymaint dros y Gymraeg yn nyddiau cynnar TG a'r rhyngrwyd; mae gwririoneddol angen erthygl arnat ers tro byd! Diolch a chofion cynnes. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:36, 3 Mai 2018 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Hia Robin. Ie does dim llawer amdana'i ar y we (yn fwriadol?), dim LinkedIn/Facebook ac ati. Roedd yna broffil ar Friends Reunited ar un adeg! Efallai be wna i yw ysgrifennu tudalen 'Amdanaf' ar fy mlog gyda rhyw grynodeb o fy ngwaith a phrosiectau a wedyn gei di ddefnyddio hwnna fel ffynhonnell. Diolch. --Dafyddt (sgwrs) 11:21, 3 Mai 2018 (UTC)Ateb
Gwych! Rho wybod! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:37, 3 Mai 2018 (UTC)Ateb

Erthygl Sinéad O'Connor golygu

Mae rhywbeth o'i le wrth geisio diweddaru erthygl Sinéad O'Connor, a rwy heb weld y broblem o'r blaen - Gwall mewnol [W0ScnwpAMFoAAIDmS5kAAABC] 2018-07-10 11:46:39: Cafwyd nam difrifol o fath "Exception" --Dafyddt (sgwrs) 11:48, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb

Newydd drio eto a mae'n iawn felly gwall dros dro --Dafyddt (sgwrs) 12:55, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad golygu

    Gwerthfawrogiad o'th Waith Arbennig
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th ddyfalbarhad, dy erthyglau arbennig, a'th waith diflino yn cadw trefn ar y fandaliaid!
Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:06, 28 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Recordiau Peski golygu

Ddim yn siŵr beth sy'n mynd 'mlaen gyda'r golygiadau i'r erthygl hon ac artistiaid cysylltiedig, ond newydd sylwi bod yr erthygl wedi cael ei dileu ar y wici Saesneg.--Rhyswynne (sgwrs) 20:34, 15 Medi 2019 (UTC)Ateb

@Rhyswynne: O diar, mae rhywun yn trio cael gwared ar Jakokoyak hefyd. Mae'n wir nad oes llawer o sôn ar y we am Peski heblaw ambell flog, ond diolch byth nad ydyn ni'n dilyn yr un canllawiau a enwiki --Dafyddt (sgwrs) 20:59, 15 Medi 2019 (UTC)Ateb

Helo Dafydd! golygu

Jyst intro bach fel rhan o'r wers! Eiddwen Llyfr a Gwin (sgwrs) 14:00, 28 Hydref 2019 (UTC)Ateb

Alun Cairns golygu

Sorry, Dafydd, I started it this morning before I went out and made the edit after I got back! Deb (sgwrs) 15:12, 6 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb

Diolch golygu

Helo Dafydd. Jyst eisiau dweud diolch yn fawr am helpu glanhau erthyglau yn dilyn y golygathon heddiw! Jason.nlw (sgwrs) 23:24, 10 Ionawr 2020 (UTC)Ateb

Luciano Onder golygu

Good evening, dearest Dafyddt! Just DIOLCH for the help in this page! Rei Momo (sgwrs) 17:15, 29 Chwefror 2020 (UTC)Ateb

Universal Code of Conduct golygu

Hi Dafyddt

I was asked by Wikimedia Foundation to promote this call for participation on the planned Universal Code of Conduct.

Best regards --Holder (sgwrs) 04:36, 14 Awst 2020 (UTC)Ateb

At times, our contributor communities and projects have suffered from a lack of guidelines that can help us together create an environment where free knowledge can be shared safely without fear.

There has been talk about the need for a global set of conduct rules in different communities over time. Recently, Wikimedia Foundation Board of Trustees announced a Community Culture Statement, asking for new standards to address harassment and promote inclusivity across projects. [3]

The universal code of conduct will be a binding minimum set of standards across all Wikimedia projects, and will apply to all of us, staff and volunteers alike, all around the globe.. It is of great importance that we all participate in expressing our opinions and thoughts about UCoC and its values. We should think about what we want it to cover or include and what it shouldn’t include, and how it may create difficulties or help our groups.

This is the time to talk about it. Before starting drafting the code of conduct, we would like to hear from you and to solicit the opinions and feedback of your colleagues.

In order for your voice to be heard, we encourage and invite you to read more about the universal code of conduct (UCoC) [4] and then write down your opinions or feedback on the discussion page [5]. To reduce language barriers during the process, you are welcomed to translate the universal code of conduct english main page into your respective local language [6]. You and your community may choose to provide your opinions/feedback using your local languages.

Agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth golygu

Mae camgymeriad difrifol yn y cofnod ar 'Agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth'. Mae'n dweud yno yn yr adran ar 'Diddymwyr Cristnogol': "Llosgwyd rhai o bregethau Wilberforce yn America gan y pregethwr enwog o Loegr, Charles Spurgeon, oherwydd iddo geryddu caethwasiaeth. Galwodd Spurgeon barn Wilberforce "y staen mwyaf ffiaidd ar Gristionogaeth bydd rhaid ei olchi allan mewn gwaed.""

Ond roedd Spurgeon yn ffyrnig yn erbyn caethwasiaeth, a'i bregethau ef a losgwyd yn America! Felly, fe ddylai'r brawddegau ddarllen fel hyn:

"Llosgwyd rhai o bregethau y pregethwr enwog o Loegr, Charles Spurgeon, yn America oherwydd iddo gondemnio caethwasiaeth. Galwodd Spurgeon gaethwasiaeth "y staen mwyaf ffiaidd"."

Mae hyn wedi codi oherwydd camgyfieithu'r brawddegau perthnasol yn y cofnod Saesneg: https://en.wikipedia.org/wiki/Christian_views_on_slavery#Christian_abolitionism

Ond nid oedd modd newid y cofnod Cyraeg am ei fod wedi ei gloi.

ListeriaBot golygu

Haia Dafydd. Mae ListeriaBot wedi cael baner bot gan @Deb: 5 mlynedd yn ol, a dw i wedi methu gweld pam fod ei olygiadau'n ymddangos yn y 'Newidiadau diweddaraf'! Mi es i 'Dewisiadau' hefyd ac roedd y botwm 'cuddio golygiadau botiau' ymlaen! Felly dim syniad ar hyn o bryd! Mae'r bot ar ei ail fersiwn, ac mae na chydig o drafferthion wedi bod ar ieithoedd eraill hefyd. Cymer olwg ar Meta, mi driaf innau, ac am y cynta! ;-) Llywelyn2000 (sgwrs) 17:38, 1 Chwefror 2021 (UTC)Ateb

Dadwneud golygiadau ar y dudalen hanes Cymru golygu

Hello Dafydd. Dwi just eisiau gofyn y rheswm pam wnest ti dadwneud fy ngolygiadau i'r dudalen Hanes Cymru? Dwi jyst yn gofyn oherwydd rydw i'n rhan o grwp sydd yn ymchwilio i fewn i fynediad agored i wybodaeth am fy papur ymchwilio yn y brifysgol. Rydw I'n gwneud papur ar dreftadaeth ddiwydiannol anghyffyrddadwy a hanes y bobl Cymreig, ac felly methodoleg fi yw i adio i dudalennau Wikipedia sydd ddim yn cynnwys digon o wybodaeth ac i chyfieithu tudalennau o Wikipedia i fewn i'r Gymraeg oherwydd mae nifer ohonynt ddim yn digon manwl i gymharu a'r rhai Saesneg. Ydych chi'n gallu ddweud pam rydych chi wedi dadwneud fy newidiadau felly? Diolch! Ecclestheswimmer (sgwrs) 10:14, 16 Chwefror 2021 (UTC)EcclestheswimmerEcclestheswimmer (sgwrs) 10:14, 16 Chwefror 2021 (UTC)Ateb

Helo, wnes i rhoi neges ar dy dudalen defnyddiwr fan hyn. Roedd nifer fawr o newidiadau mewn un golygiad mawr, gyda llawer o wallau, felly byddai hi wedi bod yn anodd cywiro. Gan mai dyma dy olygiad cyntaf dan yr enw yma, byddai'n well paratoi rhywbeth ar dudalen o fewn dy adran Defnyddiwr dy hun. Mae'n werth dweud fod yna adran cynhanes Cymru ar dudalen wahanol - Cynhanes Cymru. --Dafyddt (sgwrs) 10:27, 16 Chwefror 2021 (UTC)Ateb

Asking for sources: golygu

Hello there,

I see that you worked on the page for Rhywedd Anneuaidd and I was wondering if you had any sources for the term's use before it was added to Wikipedia?

Many thanks,

LucCymru85 (sgwrs) 14:31, 10 Medi 2021 (UTC)Ateb

Hi, it looks like the page was renamed to "Rhywedd anneuaidd" in 2017 and that is based on Stonewall's Welsh terms which is dated 2016. --Dafyddt (sgwrs) 14:52, 10 Medi 2021 (UTC)Ateb

Question golygu

Hello, please have a look on this: https://cy.wikipedia.org/wiki/Eva_Strautmann the Artist: www.eva-strautmann.com how can someone prepare the site of this artist better here? Best Regards! Fam.

How we will see unregistered users golygu

Hi!

You get this message because you are an admin on a Wikimedia wiki.

When someone edits a Wikimedia wiki without being logged in today, we show their IP address. As you may already know, we will not be able to do this in the future. This is a decision by the Wikimedia Foundation Legal department, because norms and regulations for privacy online have changed.

Instead of the IP we will show a masked identity. You as an admin will still be able to access the IP. There will also be a new user right for those who need to see the full IPs of unregistered users to fight vandalism, harassment and spam without being admins. Patrollers will also see part of the IP even without this user right. We are also working on better tools to help.

If you have not seen it before, you can read more on Meta. If you want to make sure you don’t miss technical changes on the Wikimedia wikis, you can subscribe to the weekly technical newsletter.

We have two suggested ways this identity could work. We would appreciate your feedback on which way you think would work best for you and your wiki, now and in the future. You can let us know on the talk page. You can write in your language. The suggestions were posted in October and we will decide after 17 January.

Thank you. /Johan (WMF)

18:11, 4 Ionawr 2022 (UTC)

WiciBrosiect Cymru golygu

Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch gyda WiciBrosiect Cymru os gwelwch yn dda! Diolch yn fawr Titus Gold (sgwrs) 15:28, 29 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

Os ydych yn creu erthygl sy'n ymwneud â Chymru neu y Cymry, a wnewch chi ychwanegu'r nodyn {{WiciBrosiect Cymru}} i'r dudalen sgwrs os gwelwch yn dda?
Diolch! Titus Gold (sgwrs) 23:37, 21 Hydref 2023 (UTC)Ateb
A fyddwch cystal a gwneud yr uchod ar gyfer erthyglau newydd os gwelwch yn dda. Diolch. Titus Gold (sgwrs) 23:19, 22 Ionawr 2024 (UTC)Ateb