Sgwrs:Apollo 9

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Mae "Cafodd y berwyl ofod Americanaidd Apollo 9..." yn llawer mwy anelwig na "Cafodd y roced Americanaidd Apollo 9..." Roedd sawl darn iddi, wrth gwrs, ond roced ydy'r term lleyg, cyffredinol dealladwy, er y gall fynd "ar berwyl ofod..." Awgrymaf ei newid yn ôl i "roced". Llywelyn2000 05:06, 17 Medi 2010 (UTC)Ateb

Diolch am y sylwad, cyfaill. Mewn gwirionedd, dylwn i fod wedi dechrau'r sgwrs yma - credaf wnes i newid hyn cwpwl o fisoedd yn ôl ar ryw dudalen arall heb ei drafod.
Ar y mater hwn, allwn i ddim cytuno. Mae'r term 'roced' yn cyfeirio i'r cerbyd sydd yn mynd â'r llong(au) i'r gofod. Mae'r term 'Mercury/Gemini/Apollo 8/9/10' ayyb. yn cyfeirio i'r llong gofod ei hun - ar ôl i NASA ddechrau lansio modiylau lleuadol hefyd, byddan nhw'n dechrau rhoi enwau côd i'r ddau long er mwyn eu gwahaniaethu (megis 'Gumdrop' ar gyfer y prif fodiwl 'command' a 'Spider' ar gyfer y modiwl lleuadol, fel y wnaethoch chi ysgrifennu yn wreiddiol). Yr unig enw ar gyfer y roced yn ystod pob perwyl oedd Sadwrn V.
Deallaf fod y term 'roced' yn gyffredinol yn Gymraeg, ond buaswn i'n awgrymu nad yw'n gywir i gyfeirio i Apollo 9 fel 'roced Americanaidd'. Mae 'perwyl ofod' yn anelwig, rwy'n cytuno... efallai mae'n bosib i ffeindio amgen gwell sydd yn cydnabod y gwahaniaeth hefyd?
Yn fwy cyffredinol, os mae pobl (fi, yn bennaf!) yn mynd i barhau ysgrifennu tudalennau ar faterion sy'n gysylltiedig â'r gofod, efallai mae'n syniad i gael sgwrs cyffredin ynglŷn â therminoleg - rydwyf wedi bod yn defnyddio'r cyfieiethiadau yng Ngeiriadur yr Acedemi ar y cfyan, ond dydyn nhw ddim wastad yn ddefnyddiol. Ynyrhesolaf 09:55, 17 Medi 2010 (UTC)Ateb
Weithiau mae'n rhaid cyffredinoli a symlhau pethau. Dyna wnes i drwy ddefnyddio "roced" - mae pawb yn ei ddeall. Gallaf dderbyn "perwyl ofod" cyn belled a bod esboniad ohono! Llywelyn2000 06:50, 18 Medi 2010 (UTC)Ateb
Beth dan ni angen yw rhyw fath o derm sydd yn cyfeirio i'r ffleit gofod yn ei llawnder, achos dyna beth yw ystyr 'Apollo 9' - sef, y llong gofod(au), a'r daith ddaru nhw gyflawni. Dydw i ddim yn hapus iawn gyda 'perwyl ofod' - 'space mission' - ond yn fy marn i mae'n well na defnyddio term sydd yn anghywir, neu (beth sy'n waeth) yn gamarweiniol; a dyna dy mhrif broblem gyda 'roced' yn y cyd-destun hwn. Gallwn ddychmygu rhywun sydd ddim yn gwybod dim am y gofod yn creu llun yn ei ben o ryw roced yn mynd i'r lleuad, fel mewn ffilm ffuglen wyddonol erchyll o'r 1930au!
Beth am 'daith ofod' ('space flight', rwy'n cymryd) fel amgen? Ynyrhesolaf 10:33, 18 Medi 2010 (UTC)Ateb
Llawer gwell! Nei di eu newid? (Gelli ddefnyddio'r blwch chwilio i ganfod pob achos o'r erthyl "berwyl"! Diolch i ti. Llywelyn2000 15:41, 18 Medi 2010 (UTC)Ateb
Cytuno fod 'taith ofod' yn well. Anodd taro ar gyfieithiad o'r term "space mission" sy'n cyfleu ystyr hynny'n ddiamwys yn Gymraeg. Anatiomaros 16:23, 18 Medi 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Apollo 9".