"I'n daear, rhodd yw'n diwedd:
Rhodd enbyd bywyd yw'r bedd."

/

   Dalen Flaen        Sgwrs         Stwff defnyddiol        Lluniau      
Gwybodaeth
   

CROESO! Fy enw i ydy Robin Llwyd ab Owain a dw i'n gweithio fel Rheolwr Cymru i Wikimedia UK ers 01 Mehefin 2013. Cysylltwch drwy fy wici-ebost (bar sgrolio ar y chwith). Dw i'n Weinyddwr ers 18 Gorffennaf 2008 ac yn Fiwrocrat ers 22 Rhagfyr 2011. Arswydus swyddi! Mae gen i dros 415,000 o olygiadau a hynny ar 72 o brosiectau.

Dyma englyn neu ddau i'ch croesawu:

Wrth Ddarllen Llythyrau Owain Glyn Dŵr ar y Traeth yn Harlech ar Kindle

O hen archoll anarchydd, - o galon
I galon o'r newydd,
Ar y we yn Gymry rhydd:
O'r llenor i'r darllenydd.


ac un i Olygydd Wicipedia:

Yn organig - rho ganwaith - y diolch
Sy'n blodeuo'n berffaith:
Rho yn ôl i'r hen, hen iaith
Ei thwf, ei nerth a'i hafiaith...

Hyd yma cafwyd 12,428,150 o olygiadau ar y wici Cymraeg gan 88,016 o olygyddion cofrestredig a miloedd rhagor o olygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Ceir 16 o Weinyddwyr sy'n ceisio cadw trefn ar bethau, a hynny mor agored a phosibl. Roedd nifer y golygyddion gweithgar (dros 5 golygiad) y mis diwethaf yn 127.

Y person diwethaf i olygu'r dudalen hon oedd Llywelyn2000 a hynny ar 27-12-2023; dyddiad heddiw ydy: 19 Mawrth 2024. Mae'r wybodaeth byw a welir ar y dudalen hon yn cael ei chasglu drwy ddefnyddio côd wici; ceir rhestr ohonyn nhw yn fama.

Agor drysau golygu

Dw i'n ymfalchio i mi gnocio drws, ac i'r drws hwnnw agor yn y sefydliadau canlynol: Llywodraeth Cymru, Sain (Recordiau), Cyfoeth Naturiol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol, y Coleg Cymraeg, S4C a Chymdeithas Edward Llwyd, sydd i gyd yn rhoi eu deunydd yn agored ar Wicipedia a'i chwiorydd. Braf hefyd oedd eistedd rownd y bwrdd yn 2015 gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Mon, a chreu prosiect 'Wici Mon'. Ac yna, ar y cyd, fe luniom gais i CBAC a gwelwyd golygu Wicipedia yn un o heriau'r Fagloriaeth.

Gyda dau o hoelion wyth y Wici, dyblais y nifer o erthyglau yn 2023 i 278,000. Hefyd yn 2002 creais grwp o Olygyddion Celtaidd a chafwyd Golygathon Celtaidd. Cafodd Cymru Ail Wobr yng Nghystadleuaeth Wici'r Holl Ddaear, gyda Brasil yn 3ydd a Rwsia'n bumed!

Sgwennais ychydig am ddatblygiad y Wicipedia Cymraeg (addysg) mewn blog, a chyflwynais rhai cerrig milltir yng Nghynhadledd y Cwlwm Celtaidd yn Aberystwyth. Ymhyfrydaf i gais gan wiciMon a minnau gael ei dderbyn gan CBAC, a daeth golygu Wicipedia'n rhan o'r Fagloriaeth Gymraeg.

Rhai erthyglau dw i wedi ceisio eu mireinio: golygu

Cymru:



Os canfyddwch gangymeriad - cywiwch nhw, neu os fedrwch ehangu arnynt - gwnewch hynny! Mae mwy a mwy o bobl, ysgolion, cwmniau a cholegau yn defnyddio Wicipedia, bellach, felly ychwanegwch bwt ar eich ardal neu eich diddordeb!!! ...fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl...

Fy nghyfraniadau golygu

Ar y Wicipedia Cymraeg golygu

Ystadegau
Gweithred Nifer
Golygwyd 98524
Golygwyd a dilewyd 100401
Dilewyd 2161
Tudalennau a adferwyd 28
Tudalennau wedi'u diogelu 33
Tudalennau a wrthddiogelwyd 0
Addaswyd y tudalennau a ddiogelwyd 13
Defnyddwyr a flociwyd 334
Defnyddwyr a wrthflociwyd 29
Newidiwyd hawliau defnyddwyr 41
Crewyd cyfrifon Defnyddwyr 2

traws-wici golygu


Ychydig o hwyl:

Llun ohonof yn annerch Cynhadledd Wici Addysg yng Nghaerdydd yn 2013.
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Cliciwch yma i gael bathodyn!
Cliciwch yma i gael bathodyn!
9 Gorffennaf 2012, yn barod i gyfarfod Leighton Andrews yng Nghaerdydd.
Trafod Wici gyda Carwyn Jones a Linda Tomos yn Eisteddfod 2012
Croesawu Wicipediwr Preswyl newydd y Llyfrgell Genedlaethol: Jason Evans; Ionawr 2015.