Sgwrs:Areoleg

Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Terminoleg

Terminoleg

golygu

Mi fyddaf yn gorffen hwnna maes o law.

Diolch am eich cyfraniad difyr. Tybed a oes gennych ffynhonnell am y term ei hun? Mae'n derm anghyfarwydd, er ei fod yn gwneud synnwyr, ac felly dwi'n credu fod cyfeiriad at ddefnydd o'r term yn hanfodol yma (mewn geiriadur, erthygl neu gyhoeddiad arall, er enghraifft; dwi'n methu cael hyd iddo ar y we). Anatiomaros 17:27, 21 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Does dim cyhoeddiadau yn y Gymraeg am y pwnc dan sylw. Defnyddiais Geiriadur yr Academi fel canllaw.

1. Y term Saesneg yw 'areology lle mae'r rhagddodiad Groeg areo- (Mawrth) yn cymryd lle'r rhagddodiad Groeg geo- (y Ddaear).

2. Nid yw Geiriadur yr Academi yn caniatau'r defnydd o'r ddau ragddodiad hyn yng nghyd-destun gwyddoniaeth blanedol. Er enghraifft, Daeareg ac nid "Geoleg" yw'r term cywir ar gyfer y gair Saesneg geology; Mawrth-ganolig yw'r term cywir ar gyfer y gair Saesneg areocentric. Fel canlyniad ni allai'r term Cymraeg ar gyfer y gair areology fod yn amgenach na "Mawrtheg"

3. Er bod y Wikipedia Saesneg yn enwi'r dudalen "Geology of Mars" yn hytrach nag "Areology", nid yw hynny'n fanwl gywir, am mai "Areology" ydy'r term manwl gywir ar gyfer yr astudiaeth o ddaeareg y blaned Mawrth. Mae galw'r dudalen "Geology of Mars" (neu "Daeareg Mawrth") fel galw Hydrology (Hydroleg) "Geology of Water" neu Ornithology (Adareg) "Biology of Birds". Ar ben hynny, nid yw'r term areology yn gyfyngedig i ddaeareg y blaned. Yn hytrach mae'n cynnwys meteoroleg a hydroleg Mawrth ymhlith pethau eraill. (Defnyddiwr:Sanddef)

Diolch, Sanddef. Dwi'n deall y ddadl. Hen bryd i'n gwyddonwyr gyhoeddi geiriadur termau Cymraeg. Dwi wedi wyebu'r un broblem sawl gwaith wrth sgwennu am bynciau fel seryddiaeth! Am nad oes enghraifft gyhoeddedig rhoddaf ein nodyn 'bathu termau' ar waelod y dudalen. Edrychaf ymlaen at weld erthygl ar Wenereg cyn bo hir! Hwyl, Anatiomaros 15:33, 22 Chwefror 2010 (UTC)Ateb


Rwyn deall y broblem, ond ddylem ni ddim ddyfeisio geiriau yn fy marn i - mae "Mawrtheg" yn swnio i mi fel iaith a siaredir gan ddynion bach gwyrdd. Beth am ddisgrifiad syml fel teitlau'r erthyglau yn yr ieithoedd eraill? Luke 10:46, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Am y rhesymau uchod, Luke.

Rydych chi wedi esbonio uchod pam dydych chi ddim yn galw'r dudalen "Daeareg Mawrth", ac rwy'n cytuno gyda hynny, ond does dim rhaid i ni ddefnyddio'r disgrifiad union a ddefnyddir ar en. Beth am rywbeth cyffredinolach, fel "Gwyddoniaeth Mawrth" (yn debyg i'r erthyglau Saesneg en:Earth Science neu en:Earth System Science ynglŷn â'r ddaear)? Luke 11:52, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb

Dw'i wedi ffonio Geiriadur Prifysgol Cymru i chwilio am gyfieithiad swyddogol ac maen nhw'n edrych i mewn i'r peth (dydan nhw ddim yn bathu geiriau). Byddan nhw'n cysylltu â mi wedyn gydag ateb.

Ymateb y Brifysgol

golygu

Annwyl Simon,

Er nad oes gennym gofnod o'r term hwn yn Gymraeg, ac er nad ydym fel arfer yn bathu geiriau awgrymwn eich bod yn defnyddio "areoleg" a'i ddiffinio fel astudiaeth wyddonol o ddaeareg Mawrth neu o blaned Mawrth.

Rydym wedi sylwi bod "marsology" i'w gael ar y We a byddai "mawrtholeg" yn cyfateb i'r math yna o ddefnydd. Nid yw'r OED wedi cynnwys "marsology".

Gobeithio fod hyn yn ateb eich diben,

Yn gywir,

Alwyn Owen Geiriadur Prifysgol Cymru

Credaf mai gorau felly byddai "areoleg" fel astudiaeth wyddonol o ddaeareg Mawrth neu o blaned Mawrth gan nad yw "marsology" (mawrtholeg) yn derm safonol. Sanddef 16:27, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Os dyna yw barn GPC mae'n ddigon da i mi. Dwi'n derbyn mai symud hyn i Areoleg yw'r consensws, felly? Os wyt ti am gyfrannu rhagor yn y maes yma Sanddef, bydd yn werth i ni gael categori hefyd; gwnaf hynny ar ôl symud y dudalen. (ON Mae Luke yn iawn am y darlleniad posibl o 'Fawrtheg' fel "iaith trigolion y blaned Mawrth" wrth gwrs, ond wedyn dydy Daeareg ddim yn golygu "iaith trigolion y Ddaear" chwaith...!). (OON Ond gan fod Ares yn hytrach na Mars yn sylfaen i'r term Saesneg/Cymraeg, a ydy hynny'n golygu mai 'Aphroditoleg' yw'r term cyfatebol am "ddaeareg" y blaned Gwener? Hmm, diddorol!). Anatiomaros 17:08, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
'Aphroditoleg' yn swnio'n eitha scary! Sanddef 17:24, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Clinigol braidd hefyd...! Diolch am symud y dudalen. Rwan rhaid i mi feddwl lle i ffitio'r categori. Ydy 'gwyddoniaeth blanedol' yn taro'n iawn? Dim brys, beth bynnag. Anatiomaros 17:42, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Mae "en" yn awgrymu "venero-" yn Saesneg, ond mae'r unig ddefnydd am "venerology" a welais i wrth chwilio'r we yn sillafiad arall o "venereology". Luke 17:48, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Do, mae gwyddoniaeth blanedol yn derm dilys. O ran cyrff eraill, mae Gwener a Sadwrn yn cael problem gyda "-logy" yn Saesneg am resymau amlwg Sanddef 18:21, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Gweler Categori:Areoleg a Categori:Gwyddoniaeth blanedol. Dim yn berffaith ond mi wneiff y tro am rwan. Mae'r cysylltiad i Gomin yn creu ysbrydoliaeth weithiau: beth am hyn, er enghraifft? Llun anhygoel. Anatiomaros 21:25, 23 Chwefror 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Areoleg".