Sgwrs:Arwyddion dwyieithog
Sylw diweddaraf: 12 o flynyddoedd yn ôl gan Hazard-Bot ym mhwnc Dolen wallus
Mae yna erthyglau da ar y pwnc yn y wici Eidaleg (yn arbennig) a Sbaeneg, y Sbaeneg i raddau helaeth yn gyfieithiad o'r Eidaleg rwy'n meddwl. Mi geisiaf gyfieithu fesul tipyn - oes rhywun yn gallu helpu? Rhion 11:31, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Mae'r un Ffrangeg yn dda hefyd. Dwi'n fodlon cyfieithu/addasu'r deunydd am Ogledd Affrica, i ddechrau. Gwell i mi beidio wneud hynny am rwan rhag ofn i ni gael "gwrthdaro golygyddol"! Anatiomaros 16:37, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- ON A Ffrainc hefyd. Anatiomaros 16:41, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Diolch. Mi adawaf Ffrainc felly. Rhion 16:46, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Roeddwn i'n cael cymaint o flas ar chwilio ar fr: a gwefannau allanol am ddeunydd am Foroco fel dwi'n cael fy hun yn brin o amser heno, ond dwi'n gaddo gwneud tipyn o waith ar hyn fory, gobeithio. Anatiomaros 20:39, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Diolch. Mi adawaf Ffrainc felly. Rhion 16:46, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Mae http://www.freetranslation.com/ yn gwefan dda- mae'n cyfieithu Ffrangeg i'r Saesneg yn dda. Dyma esiampl o safon y cyfieithu.
- En Irlande du Nord le bilinguisme n'est pas officiel. Deux langues sont reconnues comme langues régionales: l'irlandais et le scots. On trouve de la signalisation bilingue ou trilingue selon les circonstances et la volonté des autorités.
- In Northern Ireland bilingualism is not official. Two languages are recognized as regional languages: the Irishman and the scots. One finds bilingual signalization or trilingue according to the circumstances and authority will.
- Nid yw'n berffaith ond gobeithio bydd hyn yn helpu! Rhys Thomas 17:22, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Mae'n well o lawer na'r cyfieithiadau ar-lein i'r Gymraeg, beth bynnag! Ond mae'n haws cyfieithu'n syth o'r Ffrangeg na chyfieithu cyfieithiad i'r Saesneg sy'n llai na pherffaith. Anatiomaros 18:35, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
Arwydd ddwyieithog?
golyguDrapia. Fedran ni gyfiawnhau'r enw lluosog yn y teitl? Dwi'n gobeithio! Mae'r Saesneg "Bilingual sign" yn swnio'n chwithig i mi fel y mae Arwydd ddwyieithog, hefyd. Llywelyn2000 17:19, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Hmm, ie. Mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd eraill yn medru osgoi'r dewis trwy ddefnyddio Señalización neu gyffelyb. Rhion 17:30, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
- "Signage" fyddai'r dewis gorau ar en: hefyd. 'Arwyddion' yw'r peth agosaf at hynny yn y Gymraeg, dwi'n meddwl. Anatiomaros 18:31, 31 Gorffennaf 2009 (UTC)
Dolen wallus
golyguGwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.
- http://www.johnogroat-journal.co.uk/news/fullstory.php/aid/4382/Bilingual_signs_policy_slammed_as__ridiculous_.html
- In Arwyddion dwyieithog on 2012-05-03 02:35:09, 404 Not Found
- In Arwyddion dwyieithog on 2012-05-10 02:10:19, 404 Not Found
- In Arwyddion dwyieithog on 2012-06-02 02:27:18, 404 Not Found