Sgwrs:Bow Street

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Lloffiwr in topic Bow Street / Rhydypenau

Un erthygl? golygu

Ydy Bow Street, Pen-y-Garn a Rhydypennau yn haeddu erthygl yr un? Byddai'n well gen i weld adrannau ar Ben-y-Garn a Rhydypennau yn rannau o'r erthygl ar Bow Street. Am y rhestr pentrefi Ceredigion sydd yn cynnwys Pen-y-Garn a Rhydypennau ar hyn o bryd, a fyddai'n well tynnu'r ddau enw yma? Os eu gadael gellir disgwyl y bydd y rhestr yn tyfu'n un faith iawn. Lloffiwr 07:57, 31 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Bow Street / Rhydypenau golygu

Ro'n i o dan yr argraff mai enw Cymraeg Bow Street ydy Rhydypennau. Cywir? 195.62.202.141 21:00, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb

Na, mae Rhydypennau yn gorwedd ger y pentref (ac yn hŷn o lawer, wrth gwrs). Mae Bow Street yn un o'r enwau od 'na sydd heb ffurf Gymraeg (cafodd y pentre ei enw o'r stryd, mae'n debyg). Wedi dweud hynny, dwi ddim yn siwr os ydy Rhydypennau yn cyfrif fel rhan o Bow Street, fel sy'n cael ei ofyn uchod. Anatiomaros 21:27, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Dwi'n siwr dy fod yn gywir yn dechnegol Anatiomaros, ond eto Rhydypennau sydd ar yr arwyddion ffordd ac ar enw ysgol y pentre. Llywelyn2000 21:29, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Efallai fod angen rhywun â gwybodaeth leol i ddatrys hyn. Dwi ddim wedi chwilio pob llyfr ar y silffoedd ond sbiais eto ar Crwydro Ceredigion T. I. Ellis a chael fod Bow Street ar y map ganddo a phedwar cyfeiriad iddo fel lle ar wahân i Rydypennau (dau gyfeiriad). Dwi wedi bod trwy Bow Street sawl gwaith, ar y ffordd i Aber, ond dwi ddim yn cofio am yr arwyddion rwan (yn achos Bow Street a/neu Rhydypennau). Dwi ddim yn gosod fy hun i fyny fel awdurdod ar hyn, cofiwch, ond roeddwn i dan yr argraff mae enw Saesneg diweddar heb ffurf Gymraeg oedd BS (mae 'na sawl le arall yn y wlad). Dwi'n agored i gael fy mherswadio - mae Rhydypennau yn enw sydd wedi gogleisio fy nychymyg erioed; llawer gwell na "Bow Street"! Anatiomaros 21:50, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Ond: C.P.D. Bow Street; "Ysgol Rhydypennau: Address: Llandre, Bow Street. Anatiomaros 22:00, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Dydi e-gymraeg (Canolfan Bedwyr) ddim yn cynnig Rhydypennau fel enw Cymraeg Bow Street chwaith. Anatiomaros 22:12, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Tydy'r naill na'r llall ddim yn y 'Gwyddoniadur Cymru' diweddar, ond crybwyllir o dan 'Tirymynach': '...ac mae'n cynnwys pentrefi Bow Street, Clarach...' felly dwi'n meddwl mai ti sy'n gywir. Llywelyn2000 22:20, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Efallai fod y dryswch yn codi o'r ffaith fod pobl yn tueddu i gynnwys Rhydypennau yn Bow Street erbyn heddiw ac mai "Ysgol Rhydypennau" yw enw'r ysgol leol. Does dim rhyfedd fod pobl yn drysu'n lân! Wrth gwrs, gan fod Rhydypennau yn mynd yn ôl i'r Oesoedd Canol, o leia, basai'n braf tasen nhw'n penderfynu ailenwi Bow Street yn Rhydypennau (ond wedyn, be fasai Rhydypennau druan - Rhydypennau, Rhydypennau, Ceredigion?!). Anatiomaros 22:28, 30 Awst 2008 (UTC)Ateb
Rwyn credu bod y tri lle wedi mynd yn un mwy neu lai; yn wreiddiol rwyn credu bod Bow Street tua'r de, y Garn yn y canol a Rhydypennau tua'r gogledd (roedd yr ysgol cyntaf yn y gogledd yn deg). dim amser i holi ymhellach i ddaearyddiaeth y mater ar hyn o bryd. Lloffiwr 19:28, 31 Awst 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Bow Street".