Sgwrs:Clustog
Sylw diweddaraf: 15 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000
Tydy Geiriadur y Brifysgol ddim yn gwahaniaethu rhwng gobennydd a chlustog. Ond i ni, adre, roedd ac mae yna goblyn o wahaniaeth: rhoddwyd clustog ar gadair ond gobennydd ar wely (a'i siap yn fwy a meddalach). Hy gobennydd = pillow; clustog = cushin. Ond fel dwi'n deud, tydy GyB ddim yn gwahaniaethu, felly tydw i ddim wedi newid yr erthygl. Llywelyn2000 21:30, 28 Awst 2009 (UTC)
- Ie, wedi clywed y gair cwshin am glustog sydd ddim ar y gwely, ond gair benthyg o'r Saesneg "cushion" ydy hwn ac nid gair Cymraeg "go iawn"... Does fawr o wahaniaeth rhwng y ddau felly amau os oes angen dau erthygl, wnai greu tudalen ailgyfeirio o "cwshin". Roeddwn ni'n meddwl mai duvet oedd gobennydd? Thaf 09:37, 30 Awst 2009 (UTC)
- Chlywais i rioed air Cymraeg am "duvet"... ond wedyn, chlywais i rioed air Saesneg amdano, chwaith! Gyda llaw, Thaf, mi rwyt ti'n sgwennu erthyglau am bethau cyffredin iawn, a dwi yn wirioneddol gredu ein bod wedi manylu gormod ar erthyglau manwl / arbennigol, ac wedi anghofio am y pethau bach, syml, fel clustog. Dyna pam y bum i wrthi yn ddiweddar yn sgwennu am "dafad" a "gafr" ayb. Diolch am roi cyfeiriad i fy meddwl! Llywelyn2000 19:21, 30 Awst 2009 (UTC)