Sgwrs:Coed-duon

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Enw'r lle

Enw'r lle golygu

Unwaith yn rhagor mae'r cwestiwn o ba ffurf Gymraeg ar enw sy'n safonol yn codi. Symudwyd hyn o 'Y Coed-Duon' ddwy flynedd yn ôl gan Ben Bore gyda'r sylw mai 'Coed-Duon' yw'r ffurf swyddogol. Deuais yma trwy ailgyfeiriad o 'Coed Duon'. Ychydig o bwyntiau:

  1. Waeth os dewisem gael y fannod 'Y' neu ei hebgor, byddai ddisgwyl cael 'Coed-duon' fel ffurf safonol yn lle 'Coed-Duon'. Dyna a geir ar wefan Canolfan Bedwyr (Enwau Cymru), sef 'Y Coed-duon'.[1].
  2. Mae nifer o enghreifftiau o'r enw heb yr hyphen ar y we, h.y. (Y) Coed Duon. Ar wefan Menter Caerffili ceir "Daw Helen yn wreiddiol o'r Coed Duon..."[2] Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn rhoi enw'r dre fel 'Coed Duon' ond yn galw'r clwb golff lleol yn 'Clwb Golff y Coed Duon'.[3] Yn yr un modd, mae gwefan Llyfrgelloedd Cymru yn rhoi: 'Llyfrgell Y Coed Duon, 192 Y Stryd Fawr, Coed Duon'.[4]

Y wers efallai, fel yn achos sawl enw lle Cymraeg arall, yw ei bod hi'n anodd penderfynu beth ydyw'r ffurf "safonol" mewn gwirionedd ac felly dylai'n herthyglau adlewyrchu hynny. Yn anffodus mae'n rhaid i ni gael un ffurf yn unig fel enw'r erthygl, wrth gwrs. Dylem wastad nodi'r enw Saesneg hefyd, sef Blackwood yn yr achos yma.

Yn bersonol, dydwi ddim yn poeni llawer pa ffurf a ddefnyddir fel enw'r erthygl, 'Y Coed Duon'/'Coed Duon' neu 'Y Coed-duon'/'Coed-duon', ond dechreuais ar y sylw traethawd yma i gynnig newid hyn o 'Coed-Duon' i ffurf fwy safonol. Pa un o'r rhai uchod ydy'r gorau gennych? Anatiomaros 18:21, 28 Medi 2010 (UTC)Ateb

In case it's any help - had a look on Google streetview at the road sign on entering the town (on the main road from the north) and there is no hyphen. By the way, on subject of capitalisation with hyphen I was wondering about Braich-y-Dinas. Llais Sais 18:33, 28 Medi 2010 (UTC)Ateb
Re: Braich-y-Dinas, er fod hynny'n engrhaifft arall o enw lle gyda sawl amrywiad, fel 'Braich-y-Dinas' y cyfeirir ati yn y rhan fwyaf o'r llyfrau/erthyglau sy gennyf. Yn yr achos yma, mae 'Y Dinas' yn cyfeirio at y gaer [h.y. Y Dinas, enw lle nid unrhyw hen ddinas, sef 'caer']. Er mae fel 'Braich-y-Dinas' y cyfeirir ati, yn amlwg 'Y Dinas' oedd enw gwreiddiol (ac ystrydebol!) y gaer ac mae 'Braich-y-Dinas' yn enw topolegol mewn gwirionedd. Anatiomaros 18:49, 28 Medi 2010 (UTC)Ateb
Dwi o blaid "Y Coed Duon." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:41, 28 Medi 2010 (UTC)Ateb
Minnau hefyd - gan anghytuno â Chanolfan Bedwyr am unwaith! Anatiomaros 18:50, 28 Medi 2010 (UTC)Ateb
Arhosem i bawb ddweud eu dweud, a dewisem ddydd Mercher nesaf, iawn? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:19, 29 Medi 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Coed-duon".