Sgwrs:Cynghanedd groes o gyswllt

Mae "Yn Fehefin o fywyd" yn enghraifft wael o gynghanedd groes o gyswllt. Mae rheol yr "n wreiddgoll" yn caniatau peidio ag ateb yr "n" gyntaf, ac fe fanteisir ar hen hen oddefiad yma, sef yr "F led-lafarog". Gallai hyn fod yn gamarweiniol. Gwell fyddai enghraifft gadarn, megis "Gwerin fonheddig yr hen fynyddoedd".

Nôl i'r dudalen "Cynghanedd groes o gyswllt".