Cynghanedd groes o gyswllt

Math o gynghanedd yw Cynghanedd groes o gyswllt; nodwedd hynafol yn y canu caeth Cymraeg sy'n ddibynol ar gyfateb cytseiniaid. Dyma un enghraifft o gynghanedd groes o gyswllt:

Tithau'n drist a than dy ro (R. Williams Parry, Englynion Coffa Hedd Wyn)

Ceir Cynghanedd groes o gyswllt gymhleth pan atebir y cytseiniaid cyn yr orffwysfa ddwywaith: unwaith ar ddechrau'r llinell, ac yr eildro yn y gyfatebiaeth gytseiniol ar ôl yr orffwysfa, megis:

A phrancio o ffroeni y cyffro anwel (Dic Jones, Gwanwyn)
(sef: ph(ff)rnc ffr n / c ffr n)

Enghreifftiau eraill golygu

Teganau trist gwynt y rhew (Dic Jones, Gwanwyn)
Roedd un mur o ddeunaw maen (Gerallt Lloyd Owen, Cilmeri)
Dymor hud a miri haf
Tyrd eto i'r oed ataf (R. Williams Parry, Yr Haf)
Gwerin fonheddig yr hen fynyddoedd (Gerallt Lloyd Owen, 'Y Gwladwr')

Llyfryddiaeth golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.