Sgwrs:Diwygiad 1904–1905

Latest comment: 18 o flynyddoedd yn ôl by Lloffiwr in topic Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r erthygl hon yn fy marn i yn rhoi safbwynt personol iawn ar Ddiwygiad 1904 ac fe fyddai eraill yn rhoi dehongliad gwahanol iawn ar beth ddigwyddodd. Mae'n debyg nad oes digon ohonom yn cyfrannu yma i allu gael trafodaeth adeiladol gan obeithio y gallwn gael un yn y dyfodol ond teimlaf ei bod yn bwysig nodi mai dehongliad unochrog a geir yma yn fy marn i. Dyfrig 14:25, 14 Ebrill 2006 (UTC)Ateb

Yn cytuno. Wedi diwygio ychydig bach ar yr erthygl ond dim amser i'w wella'n drwyadl. A allai'r awdur geisio gwella rhywfaint arno ei hunan cyn bod rhywun yn cynnig cael gwared ar yr erthygl yn gyfangwbl oherwydd ei fod yn dangos safbwynt yr awdur yn ormodol? Byddai hynny'n drueni mawr o gofio pwysigrwydd Diwygiad 1904-05 yn hanes Cymru a Christnogaeth fyd-eang. Lloffiwr 16:36, 14 Ebrill 2006 (UTC)Ateb

Gwybodaeth ychwanegol golygu

A all rhywun ehangu'r cyfeiriad at yr adroddiad yn y South Wales Daily News am gynhadledd Blaenannerch?

Byddai'n werth cynnwys trafodaeth o effaith diwygiad 1904-05 ar Gristnogaeth tramor yn yr erthygl hon. Lloffiwr 16:46, 14 Ebrill 2006 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Diwygiad 1904–1905".