Sgwrs:Dyniaethau digidol

Sylw diweddaraf: 13 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000

wedi tynnu "a elwir hefyd yn ddyniaethau cyfrifiadureg" am ei fod yn aneglur beth yw'r trosiad gorau o "humanities computing": cyfrifiadureg dyniaethau neu ddyniaethau cyfrifiadurol? --Rhodri ap Dyfrig 23:56, 5 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Gan fod y pwyslais yn fwy ar y dyniaethau'n hytrach na'r cyfrifiadur yna awgrymaf "dyniaethau cyfrifiadurol". Mae'r cyfieithiad Cymraeg yn llawer rhy glogyrnaidd o gymhleth ac angen ei lacio a'i symleiddio. Rhyw fath o lacsatif ieithyddol! Fedri di wneud ychydig o hynny hefyd? Llywelyn2000 03:32, 6 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Dwi'n cytuno ag awgrym Llywelyn. Mae'r un peth ar gyfer computer forensics yn Gymraeg, sef "fforenseg gyfrifiadurol." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:30, 6 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
O edrych ar y dudalen Saesneg a'r terminoleg http://en.wikipedia.org/wiki/Digital_humanities#Terminology mae'n edrych fwy i fi fod y maes yn arfer bod yn gyfrifiadureg y dyniaethau am ei fod gan fwyaf am y broses o ddigideiddio yn hytrach na'r dyniaethau ei hunain. Felly ar ôl ystyried faswn i'n dweud taw cyfrifiadureg y dyniaethau fasai humanities computing. --Rhodri ap Dyfrig 22:46, 6 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Dw i'n tueddi i gytuno Dyfrig 22:54, 6 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Chwech i un, hanner dwsin i'r llall! Ymlaen! Llywelyn2000 06:06, 7 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Dyniaethau digidol".