Sgwrs:Fawlty Towers

Sylw diweddaraf: 15 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros

"Gwlad: Deyrnas Unedig" (yn y blwch ar y dde)

Mae'r erthygl am y DU yn dweud bod y DU yn *cynnwys* gwledydd, ond mae hi'n peidio'n ofalus a dweud taw gwlad yw'r DU ei hun. Mae anghysondeb gyda'r erthygl yma felly. Ond faswn i ddim yn gwybod shwd i'w newid. Gwingwyn 09:03, 19 Medi 2009 (UTC)Ateb

Ond mae'r erthygl Saesneg (http://en.wikipedia.org/wiki/United_Kingdom) yn galw'r DU yn wlad!

Ia, mae hyn yn broblem gyffredinol. Dwi'n credu y dylem ni wahaniaethu yn bendant rhwng 'gwlad' a 'gwladwriaeth', yn enwedig yn achos gwledydd Prydain. Mae hyn yn ddadl ddiderfyn ar y wici Saesneg hefyd. Rydym ni i gyd yn gwybod fod Cymru yn wlad beth bynnag, ond yn swyddogol - h.y yn ôl llywodraeth y DU a'n llywodraeth bach ni hefyd - mae hi'n un o "wledydd y Deyrnas Unedig" (ond y broblem fan 'na yw bod anwybodusion San Steffan yn galw Gogledd Iwerddon yn 'wlad' hefyd, a hynny yn groes i hanes a safbwynt gwleidyddol mwyafrif helaeth pobl y diriogaeth, heb sôn am Gytundeb Belffast!). Mater o dermau, ond dylem ni fod yn gyson. Anatiomaros 14:07, 19 Medi 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Fawlty Towers".