Comedi sefyllfa enwog a gynhyrchwyd gan y BBC ac a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar BBC2 ym 1975 ydy Fawlty Towers. Er mai deuddeg rhaglen yn unig a gynhyrchwys (dwy gyfres o chwech rhaglen yr un), ystyrir y cyfresi yn un o gomedïau mwyaf dylanwadol a hir-hoedlog y BBC.

Fawlty Towers
Genre Comedi
Serennu John Cleese
Prunella Scales
Andrew Sachs
Connie Booth
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer penodau 12
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 -35 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Darllediad gwreiddiol 12 Medi, 197525 Hydref, 1979

Lleolwyd y cyfresi mewn gwesty ffuglennol o'r enw "Fawlty Towers" a oedd ger y dref glan môr Torquay ar y "Riviera Seisnig" (lle y lleolwyd y gwesty Gleneagles a ysbrydolodd John Cleese i ysgrifennu'r gyfres). Ysgrifennwyd y rhaglen gan Cleese a Connie Booth, a chwaraeodd y ddau ohonynt y prif gymeriadau. Cyfarwyddwyd y gyfres gyntaf yn 1975 gan John Howard Davies; cyfarwyddwyd yr ail gyfres ym 1979 gan Douglas Argent a chafodd ei chyfarwyddo gan Bob Spiers.

Ar restr o'r 100 o Rhaglenni Teledu Prydeinig Gorau a luniwyd gan y Gymdeithas Ffilm Prydeinig yn 2000, rhoddwyd "Fawlty Towers" ar frig y rhestr. Cafodd y rhaglen ei dewis hefyd y pumed "Comedi Sefyllfa Prydeinig Gorau" gan y BBC yn 2004.