Sgwrs:Gary Slaymaker
Cywiriadau
golyguMewn eitem ar Wedi 7 (11 Ionawr 2011 19:00), fe wnaeth Gary Slaymaker feirniadu Wikipedia am ei wallau, yn ogystal a'r erthygl yma amdano fe. Wnaeth e gynnig y gwallau canlynol yn yr erthygl ond dim cywiriadau - defnyddiol.
Mae e'n dweud nad 1964 yw ei ddyddiad geni (1963 mae'n debyg os yw erthygl allanol yn rhoi ei oedran cywir rhwng mis Ionawr ond cyn iddo gael ei benblwydd y flwyddyn honno). Mae'n dweud nad yw sillafiad Cwm-ann yn gywir (Cwmann, er fod y cyngor yn mynnu rhoi cysylltnod i fewn), nid yw'n adolygu i'r Western Mail (mi oedd e ar un adeg?). Mae hefyd yn dweud ei fod wedi bod yn ddigrifwr erioed - fe wnaeth e weithio fel digrifwr stand-up yn y 90au a dychwelyd i'r maes yna yn 2006.
Fe wnai gywirio y manylion lle mae'n briodol.
Colofnydd Western Mail
golyguDyma sut mae un erthygl yn y Western Mail yn cyfeirio ato yn 2005:
- Presented by Western Mail cinema columnist and raconteur Gary Slaymaker, Tydi Cariad yn Gr t! (Isn't Love Great!) asked people aged 18 to 80 across the country about different aspects of love.
Siawns nad ydy'r Western Mail yn cael eu ffeithau'n gywir? O, hang on... Mwy yma.--Ben Bore 09:13, 12 Ionawr 2011 (UTC)
O! Falle fod y BBC wedi cael eu ffeithiau anghywir hefyd... [1] Dw i'n cymryd y gallwn ni dderbyn fod 'rhen Gary wedi cyfrannu at y Western Mail ar ryw adeg o leiaf. Pwyll 19:48, 12 Ionawr 2011 (UTC)
Cwm-ann/Cwmann
golyguDdim yn gyfarwydd â'r lle fy hun, ond Cwm-ann mae Y Llyfr Enwau (D. Geriant Lewis) yn roi. Mae'r erthygl Cwm-ann yn crybwyll y ddau sillafiad, ac mae Cwmann yn bodoli fel tudalen ail gyfeiriad.--Ben Bore 09:13, 12 Ionawr 2011 (UTC)
Digrifwr neu beidio
golygu- "Mae hefyd yn dweud ei fod wedi bod yn ddigrifwr erioed"
Mater o farn ydy hynny, felly falle ddim yn addas ar wyddoniadur ;-) --Ben Bore 09:13, 12 Ionawr 2011 (UTC)