Beirniad ffilmiau, cyflwynydd teledu a radio, nofelydd a digrifwr Cymreig ydy Gary Slaymaker (ganwyd 8 Tachwedd 1963).[1] Ganwyd yng Nghwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Mae nawr yn byw yng Nghaerdydd.[2]

Gary Slaymaker
Ganwyd8 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
Cwm-ann Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, beirniad ffilm, nofelydd, digrifwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Fe gyflwynodd rhaglenni Potsh a Slaymaker ar S4C yn y 1990au. Bu hefyd yn cyflwyno rhaglen Hwyrach ar BBC Radio Cymru yn ystod yr 1980au.[3] Rhwng 2006 a 2011 roedd yn gyflwynydd y cwis dychanol Bwletîn ar BBC Radio Cymru.[4]

Mae e'n adolygwr ffilmiau ar gyfer radio a theledu Cymreig ers blynyddoedd ac ar un adeg roedd yn adolygu ffilmiau ar gyfer y Western Mail.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Sach Winwns, yn 2005.[2]

Bu'n perfformio comedi stand-up yn Gymraeg a Saesneg ers 1992.[1]

Llyfrau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Manylion cyfarwyddwr Slaycorp. Adalwyd ar 28 Ionawr 2016.
  2. 2.0 2.1  Gary Slaymaker. BBC (29 Rhagfyr 2006).
  3.  C2: Gwesteion: Gary Slaymaker. BBC Radio Cymru (2004).
  4. Werth Chwerth: Clwb Comedi Cymreig , Y Cymro, 23 Mawrth 2012. Cyrchwyd ar 28 Ionawr 2016.

Dolenni allanol

golygu