Sgwrs:Parafeddyg

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Gwaith y parafeddyg)
Sylw diweddaraf: 16 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000

Roedd yr erthygl Parafeddyg eisioes ynbodoli, ydy hwn yn erthygl gwahanol? Thaf 15:08, 23 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Chlywais i rioed mo'r gair yn Gymraeg! Ond pam lai, mae'n ffitio'n ddel ac yn naturiol. Diolch. Llywelyn2000 15:19, 23 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
I fod yn onest dwi'n meddwl fod Parafeddyg yn deitl gwell na Gwaith y parafeddyg. Gan gysidro mai e.e. Actor yw'r enw am erthygl nid Gwaith yr actor. Buasai'n well hefyd os baset ti wedi cyfuno'r cynnwys o'r erthygl a oedd eisioes yn bodoli yn hytrach na'i ddileu yn gyfan gwbl. Roedd ywchwaneg i'w gael yno dwi'n credu. Thaf 15:44, 23 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn deall pam gafodd 'parafeddyg' ei dileu er mwyn creu hyn chwaith. Pe bai hyn yn erthygl ychwanegol at yr erthygl 'parafeddyg' gellid dadlau dros yr angen i gael dwy erthygl, ond dwi'n cytuno gyda Thaf fod angen yr erthygl parafeddyg ac hefyd yn methu gweld fod llawer o gyfiawnhad dros gael ail erthygl yn deillio o 'parafeddyg' oni bai fod dim digon o le yn yr erthygl gyntaf (gellid ei rhannu yn adrannau ar Hyfforddiant, hanes parafeddygaeth, ayyb ac wrth gwrs gwaith y parafeddyg, sef yr ochr ymarferol, "yn y maes"). Fel mae Thaf yn dweud, baswch chi ddim yn disgwyl cael "Gwaith yr actor" yn lle "Actor". Anatiomaros 21:42, 23 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Mae'n bosibl adfer y dudalen a ddilewyd. Credaf mai dyna'r peth gorau i'w wneud dan yr amgylchiadau, ar ôl dileu'r dudalen ailgyfeirio "parafeddyg", wedyn ychwanegu testun Llywelyn i'r hen erthygl. Dwi ddim yn deall o gwbl pam y cafodd yr erthygl ei dileu yn y lle cyntaf - hyd yn oed os oes rheswm dros newid yr enw i gael erthygl "newydd" yn ei lle, y peth arferol yw symud y dudalen, nid ei dileu. Anatiomaros 21:51, 23 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Fel ddywedais uchod, chlywais i mo'r gair 'parafeddyg' tan rwan. Lluniais erthygl dan 'Gwaith y Paramedig' oherwydd i mi gael fy nghywiro am greu erthyglau ar alwedigaethau; dyma a ddywedodd Anatiomaros: Mae'r dolenni rhyngwici yn arwain at erthyglau am gynaecology, nid gynaecologist. Buasai hyn yn well fel erthygl ar yr alwedigaeth ei hun efallai (dwi'n gweld nad oes sôn am geinecoleg ynddi)? Anatiomaros 21:01, 9 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Wyddwn i ddim chwaith fod hen erthygl yn bodoli. Tila iawn oedd y cynnwys felly mi wnes ei dileu. Dwi'n derbyn mai gwell fyddai 'symud' yr erthygl newydd, bellach, yn hytrach na dileu yr hen un. Diolch. Llywelyn2000 03:02, 25 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Efallai, bellach, fod angen rhestr o erthyglau tebyg i 'Amheus' ar gyfer eu cywiro a ran y Gymraeg CYN ymddangos yn fyw ar Wici. Unwaith eto, mae'r erthygl hon yn llawn o wallau. Ni ddylai (yn fy marn bach i) ymddangos hyd nes fo rhywun cyfrifol wedi ei gwiro, ei chywiro, a rhoi sêl ei fendith arni. Llywelyn2000 19:30, 6 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Parafeddyg".